Prifysgol Caerdydd a'i phartner Coleg Gŵyr Abertawe yn uwchsgilio diwydiant peirianneg Cymru
26 Awst 2021
Bydd partneriaeth a gefnogir gan Lywodraeth Cymru rhwng Prifysgol Caerdydd a Choleg Gŵyr Abertawe yn galluogi busnesau a gweithwyr proffesiynol i fanteisio ar raglen Prentisiaeth Gradd Peirianneg Integredig gyntaf Cymru.
Cynlluniwyd y rhaglen BEng Prentisiaeth Gradd Peirianneg Integredig i gynorthwyo busnesau i recriwtio a datblygu eu timau peirianneg yn barhaus, a galluogi i'r dysgu prifysgol diweddaraf gael ei roi ar waith ar unwaith mewn busnesau yng Nghymru.
Mae'r Brentisiaeth Gradd, a gyllidir yn llawn ac a achredir gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) a Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) ar gyfer statws Peiriannydd Corfforedig, ar gael i weithwyr presennol a staff sydd newydd eu recriwtio sy'n gweithio yn y diwydiant peirianneg.
Bydd darpariaeth dysgu o bell wedi'i phersonoli hefyd yn lleihau'r angen i deithio i'r coleg a'r brifysgol, gan sicrhau bod peirianwyr ledled De Cymru yn gallu manteisio ar gyfleoedd i baratoi eu gyrfaoedd at y dyfodol, ac archwilio holl feysydd y diwydiant peirianneg gan gynnwys mecaneg, rheoli prosiect, dylunio cynnyrch integredig, a thermodynameg.
Mae galw uchel eisoes am y deg lle a ariennir gan Lywodraeth Cymru i garfan gyntaf y Radd gan fusnesau ac unigolion sy'n cydnabod y llwyddiannau y mae Coleg Gŵyr Abertawe a Phrifysgol Caerdydd wedi'u cyflawni yn y sector. Yn fwyaf diweddar mae hynny'n cynnwys Coleg Gŵyr Abertawe yn cael ei enwi'n Ddarparwr Peirianneg a Gweithgynhyrchu'r Flwyddyn yn y DU yng Ngwobrau Prentisiaeth Cenedlaethol Wythnos AB ac AELP AAC.
I gofrestru, rhaid i unigolion feddu ar gymhwyster lefel tri i gael eu hystyried ar gyfer y cwrs. Yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn astudio ar gyfer eu cymwysterau lefel pedwar a phump yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, cyn trosglwyddo i Brifysgol Caerdydd i gwblhau dwy flynedd olaf y radd ar lefel prifysgol.
Wrth sôn am lansiad y rhaglen radd, dywedodd Denise Thomas, Rheolwr Maes Dysgu Peirianneg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Mae ein partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd yn ymateb uniongyrchol i’r angen y gwyddom sy’n bodoli yn sector peirianneg Cymru.
“Mae'r Brentisiaeth Gradd Peirianneg Integredig hon yn wirioneddol unigryw ac yn dilyn blynyddoedd o ddatblygu, wedi'i seilio ar ein profiad o gefnogi busnesau a gweithwyr proffesiynol blaenllaw yng Nghymru. Bydd ein dull integredig yn cyfuno peirianneg fecanyddol, drydanol, electronig a gweithgynhyrchu, er mwyn galluogi unigolion i sicrhau sylfaen eang o wybodaeth, a helpu i wneud yn siŵr fod Cymru’n datblygu'r talentau sydd eu hangen ar gyfer amgylcheddau peirianneg amlddisgyblaethol.
“Trwy gyfuno ein cryfderau fel darparwr addysg bellach sydd wedi ennill gwobrau yn y DU, â rhai un o brifysgolion blaenllaw'r DU, ein nod yw rhoi mantais i sector peirianneg Cymru wrth recriwtio talentau newydd a datblygu eu gweithluoedd ymhellach.”
Dywedodd Dr Phil Anderson ym Mhrifysgol Caerdydd, a goronwyd y brifysgol orau yng Nghymru yn ddiweddar gan The Complete University Guide 2022: “Mae'r bartneriaeth hon gyda Choleg Gŵyr Abertawe yn ganolog i gefnogi ein diwydiant peirianneg rhanbarthol i uwchsgilio a phroffesiynoli eu gweithluoedd.
"Mae'r BEng Prentisiaeth Gradd Peirianneg Integredig yn cynnig cyfle i ddysgwyr gyfoethogi eu gwybodaeth a phroffesiynoli pob maes allweddol yn y diwydiant peirianneg. Mae'r modd integredig, hyblyg y cyflwynir ein cwrs yn allweddol i alluogi i'r dysgwyr a'r gweithwyr cyflogedig hyn roi eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth newydd o beirianneg ar waith ar unwaith yn eu gyrfaoedd, wrth iddyn nhw ddysgu, ac yn eu galluogi i baratoi eu llwybrau at y dyfodol."
Rhaid cyflwyno ceisiadau i ymuno â'r rhaglen BEng Prentisiaeth Gradd Peirianneg Integredig erbyn 16 Medi 2021. Dylai unigolion a busnesau a hoffai drafod opsiynau i gofrestru gysylltu â Denise.Thomas@gowercollegeswansea.co.uk.