Gwell Cefnogaeth i ffoaduriaid LGBTQ+ a cheiswyr lloches yng Nghymru
23 Awst 2021
Mae Cynllun Gweithredu LGBTQ+ diweddar Llywodraeth Cymru yn cynnwys argymhellion ar wella cymorth a chanlyniadau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches LGBTQ+ yng Nghymru a gafodd ei lywio gan ymchwil y myfyriwr PhD Rania Vamvaka.
Mae'r Cynllun Gweithredu LGBTQ+ yn gynllun uchelgeisiol ynghylch sut i wneud Cymru yn gartref diogel a chroesawgar i bob person LGBTQ+, gan fynd i'r afael â materion allweddol gan gynnwys lles a digartrefedd. Dyma'r tro cyntaf i ffoaduriaid a cheiswyr lloches LGBTQ+ gael eu cynnwys mewn adroddiad polisi o'r maint hwn yng Nghymru.
Mae ymchwil Rania yn canolbwyntio ar bolisi lloches cwîr a sut mae polisïau o'r fath yn llywio profiadau mudwyr dan orfod LGBTQ+ o amgylch cymuned, perthyn ac ymgyrchu.
Cysylltodd Llywodraeth Cymru â Rania y llynedd i ymuno â'r panel arbenigol o ganlyniad i'w hymchwil parhaus i brofiadau ceiswyr lloches a ffoaduriaid LGBTQ+ hymgyrchu sy'n dod â mudwyr cwîr dan orfod i’r blaen.
Gweithiodd Rania gyda Stonewall Cymru, Pride Cymru, GIG Cymru, Cymorth Traws Cymru, Dinasoedd Llwybr Carlam a sefydliadau partner eraill a gyfrannodd flynyddoedd o brofiad a mewnwelediad ar faterion LGBTQ+ megis atal HIV a hawliau traws.
O ganlyniad i ymchwil a chyngor arbenigol Rania, mae'r Cynllun Gweithredu LGBTQ+ yn cynnwys argymhellion y dylai Llywodraeth Cymru alw ar Lywodraeth y DU i wella'r ffyrdd y gellir adnabod ceiswyr lloches LGBTQ+ fel y cyfryw er mwyn cael y cymorth mwyaf priodol mewn perthynas â thai diogel, mynediad at wasanaethau lles priodol a chynhwysiant cymunedol ystyrlon.
Yn dilyn ei gwaith ar y Cynllun Gweithredu LGBTQ+, ac fel cyd-sylfaenydd Glitter Cymru, cafodd Rania ei chynnwys yn ddiweddar ar Restr Pinc 2021, sef rhestr o bobl LGBTQ+ fwyaf dylanwadol Cymru.
Gan siarad am ei gwaith ar banel yr arbenigwyr, dywedodd Rania: “Mae cymryd rhan yn y cyd-destunoli a chreu rhan bwysig o hanes polisi LGBTQ+ yn freuddwyd a wireddwyd. Fel menyw groenliw, ymgyrchydd LGBTQ+, ac academydd mudo gyrfa gynnar, rwy’n teimlo y gwrandewir arnaf yng Nghymru ac fy mod yn cael fy ngweld ac yn cael fy nerbyn.
"Yn ystod fy nghyfnod yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, rwyf bob amser wedi ceisio ymhelaethu ar leisiau ymylol, tynnu sylw at faterion sy'n ymwneud â chroestoriadedd, a darparu atebion cynaliadwy i amrywiaeth a heriau cynwysoldeb. Ym myd academia rydym yn siarad lawer am effaith; sut olwg yw’r effaith a sut rydym yn ei wireddu. Ond pan fyddwch yn gwisgo dwy het yn debyg imi, mae ymchwil ac effaith yn cydblethu.
“Rwy’n ddiolchgar i Jane Hutt MS ac i Hannah Blythyn MS sydd wedi gwrando ac wedi cymryd fy ymchwil a’m galwadau i weithredu o ddifrif. Rwy’n gobeithio y bydd pobl Cymru a fydd yn ymateb i’r ymgynghoriad yn deall bod fy argymhellion yn realistig, gan eu bod yn seiliedig ar wneud defnydd o bŵerau datganoledig llawn Cymru. Mae’n rhaid inni hefyd ddod ynghyd er mwyn gwneud Cymru yn gartref diogel i bawb.”