Gallai clotiau gwaed a'r system imiwnedd gyfrannu at seicosis, yn ôl ymchwilydd o'r Ysgol Fferylliaeth
20 Awst 2021
Mae adolygiad gwyddonol wedi canfod tystiolaeth y gallai tarfu ar glotiau gwaed a llwybr ategol y system imiwnedd fod yn ffactorau sy'n cyfrannu at ddatblygu seicosis.
Mae'r erthygl, sy'n ymdrech gydweithredol ar y cyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Meddygaeth a Gwyddorau Iechyd RCSI, a Sefydliad Conway UCD, wedi'i gyhoeddi yn Molecular Psychiatry1.
Mae astudiaethau diweddar wedi nodi bod proteinau gwaed sydd ynghlwm wrth y system imiwnedd cynhenid a'r rhwydweithiau clotiau gwaed yn allweddol o ran datblygu seicosis.
Dadansoddodd yr ymchwilwyr yr astudiaethau hyn gan ddatblygu theori newydd sy'n awgrymu bod anghydbwysedd y ddwy system yn arwain at lid, sydd yn ei dro yn cyfrannu at ddatblygu seicosis.
Mae'r ddamcaniaeth newydd yn mireinio ymhellach y rhagdybiaeth 'dwy ergyd' sy'n bodoli, lle mae ffactorau genetig a/neu amgylcheddol cynnar yn amharu ar y system nerfol ganolog sy'n datblygu ac yn cynyddu natur fregus yr unigolyn i aflonyddwch amgylcheddol dilynol.
"Er nad yw'r syniad o seicosis sy'n deillio o ryw fath o lid a gweithrediad imiwnedd yn newydd, mae ein data'n awgrymu dealltwriaeth a newid ffocws newydd tuag at swyddogaeth gyfunol o'r system ategol imiwnedd cynhenid a llwybrau ceulo sy'n arwain at anhwylder seicotig," meddai Dr Meike Heurich, awdur cyntaf a darlithydd mewn Imiwnoleg, Bioleg Ategol a Tholcheniad yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, Prifysgol Caerdydd.
"Mae adnabod a thrin yn gynnar yn gwella canlyniadau clinigol anhwylderau seicotig yn sylweddol. Gall ein damcaniaeth fod yn gam pellach at fiofarcwyr seicosis... a thriniaeth fwy effeithiol," meddai Dr Melanie Föcking, awdur cyntaf ar y cyd a Darlithydd mewn Niwrowyddoniaeth Seiciatrig yn Adran Seiciatreg RCSI.