Cymorth newydd i lansio Rhaglen Gwerth Cyhoeddus Sefydliad Hodge
17 Awst 2021
Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn falch o gyhoeddi ei bod yn ymestyn ei phartneriaeth hirsefydlog gyda Sefydliad Hodge.
Mae'r Sefydliad wedi addo £450,000 o gymorth dros dair blynedd, er mwyn sicrhau manteision i fyfyrwyr, ymchwilwyr a'r gymuned ehangach.
Bydd Rhaglen Gwerth Cyhoeddus Sefydliad Hodge yn cyflwyno pedair menter ar draws Ysgol Busnes Caerdydd i roi'r wybodaeth a'r sgiliau i'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr i ddiogelu economi, cymdeithas ac amgylchedd Cymru yn y dyfodol.
Mae'r ymrwymiad newydd hwn yn cryfhau perthynas 20 mlynedd yr Ysgol â'r Sefydliad, a ddechreuodd pan wnaeth Syr Julian Hodge ymrwymiad dyngarol i fyfyrwyr ac ymchwil.
- Bydd Rhaglen Ysgoloriaeth PhD yn hyfforddi arweinwyr meddwl y dyfodol.
Byddant yn blaenoriaethu ceisiadau gan fyfyrwyr o Gymru ac yn enwedig y rhai o gefndir difreintiedig, neu fyfyrwyr y mae eu cynnig ymchwil yn canolbwyntio ar Gymru a'i nod yw cynhyrchu gwybodaeth newydd o werth i economi Cymru ac i gymdeithas.
Bydd prosiectau sy'n mynd i'r afael â heriau economaidd a chymdeithasol ar ôl COVID 19 hefyd yn cael eu hannog.
- Bydd pum Lleoliad gwaith dros yr haf pob blwyddyn yn galluogi 15 o fyfyrwyr israddedig i gael profiad ymchwil ymarferol mewn amgylchedd proffesiynol.
Fel rhan o fentrau Rhaglen Arloesedd Addysg a Chyfleoedd Ymchwil Prifysgol Caerdydd, nod y lleoliadau yw cynyddu hyder myfyrwyr a gwella sgiliau academaidd. Gall myfyrwyr ychwanegu’r wybodaeth ddiddorol ac unigryw ar eu CV am yr hyfforddiant ychwanegol a gawsant ar leoliadau.
- Bydd Cronfa Sbarduno Menter Gymdeithasol yn cefnogi israddedigion yn eu blwyddyn olaf a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir sy'n astudio entrepreneuriaeth, drwy eu helpu i sefydlu busnesau newydd gyda chenhadaeth gymdeithasol ac economaidd.
Bydd myfyrwyr yn cystadlu am gyllid drwy gyflwyno eu syniad i banel o arbenigwyr gan gynnwys academyddion, ymarferwyr ac Entrepreneuriaid Gwerth Cyhoeddus Preswyl (PVEiR)Ysgol Busnes Caerdydd.
- Bydd elfen olaf y rhaglen yn dyfarnu Gwobrau Myfyrwyr i'r israddedigion a'r ôl-raddedigion hynny sydd wedi cyflawni rhagoriaeth academaidd yn nigwyddiad gwobrwyo blynyddol yr Ysgol.
Ychwanegodd yr Athro Ashworth: "Bydd y rhaglen yn ein helpu i barhau i greu mannau lle mae ein myfyrwyr yn cael eu hannog i herio, i gadw meddwl agored a chael golwg eang ar y byd. Bydd yn eu galluogi i ddatblygu lefel uchel o wybodaeth a sgiliau yn eu hymchwil a'u hastudiaethau. Byddant yn gadael gyda'r hyder i ysgogi newid cadarnhaol yng Nghymru a'r byd, gydag ymdeimlad ehangach o bwrpas economaidd a ffyrdd newydd o feddwl a gwneud.
Caerdydd yw Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf y byd, gyda chenhadaeth glir o gael effaith gadarnhaol ar y byd. Yn ogystal â llwyddiant economaidd, nod yr Ysgol yw dod â dyngarwch, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd i’r sector busnes.
Meddai Karen Hodge, Ymddiriedolwr Sefydliad Hodge: "Rydym yn falch o'n partneriaeth ag Ysgol Busnes Caerdydd ac yn falch o gefnogi Rhaglen Gwerth Cyhoeddus Sefydliad Hodge. Mae'r Sefydliad wedi ymrwymo i addysg a dysgu, a chredwn yn gryf mewn rhoi cyfle i bobl ifanc o bob cefndir gyflawni eu potensial a ffynnu."
Mae rhoddion fel y rhain gan Sefydliad Hodge, yn ogystal â'r rhai gan unigolion a sefydliadau hael, yn helpu Prifysgol Caerdydd i gynnig gwasanaethau rhagorol i gefnogi myfyrwyr, meithrin ymchwil sy'n arwain y byd, a meithrin arloesedd a phartneriaethau busnes.