Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas Addysg Ddeintyddol yn Ewrop 2021
16 Awst 2021
Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas Addysg Ddeintyddol yn Ewrop (ADEE) o bell eleni, ond ni wnaeth hynny atal CUREMeDE rhag bod yn bresennol.
Gwnaethom gyflwyno pum poster i gyd yn seiliedig ar ein gwaith gyda’r ADEE a'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) ar broffesiynoldeb ym maes deintyddiaeth a pharodrwydd i ymarfer:
Dorottya Cserzo “Beth mae parodrwydd i ymarfer yn ei olygu i weithwyr deintyddol proffesiynol, adeg graddio?”
Alison Bullock “Profiadau a Chymhellion ar gyfer Hyfforddiant Deintyddol Ôl-raddedig Ychwanegol yn Ysbytai’r DU”
Emma Barnes “Gwybodaeth aelodau’r tîm deintyddol a’u hyder i ddarparu addysg iechyd y geg”
Jonathan Cowpe “Mae Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn symud i fodel sy’n seiliedig ar ganlyniadau”
Llongyfarchiadau arbennig i Hannah Barrow, a enillodd wobr am y cyflwyniad gorau. “Beth mae proffesiynoldeb yn ei olygu i weithwyr deintyddol proffesiynol, cleifion ac eraill”
Gallwch ddarllen rhagor am y prosiect hwn, gan gynnwys ein hadroddiad terfynol, ar y dudalen am ein prosiect.