Ewch i’r prif gynnwys

Nod prosiect Share Your Rare yw codi ymwybyddiaeth o gyflyrau genetig ac iechyd meddwl prin

12 Awst 2021

Share Your Rare 1 August 2021
Mae Dr. Sam Chawner yn ysgrifennu pumawd gydag ymwelwyr i’r Syrcas Isatomig

Mae Share Your Rare yn annog y rhai sydd â phrofiad byw o gyflyrau prin ac iechyd meddwl neu ymchwilwyr mewn meysydd perthnasol i ddangos eu profiadau ar ffurf cerdd neu ddarlun, a rennir trwy'r cyfryngau cymdeithasol.

Mae Dr. Sam Chawner o Brifysgol Caerdydd a Phenotypica, menter a grëwyd gan y gwyddonydd cyfrifiadurol Ben Murray, a'r artist Neus Torres Tamarit yn arwain y prosiect.

Nod gwaith Dr. Chawner yw deall y cysylltiad rhwng cyflyrau genetig prin a phroblemau iechyd meddwl, gyda chefnogaeth Phenotypica i gyfleu profiadau pobl mewn ffyrdd creadigol.

Trwy gynnwys artistiaid fel Ben a Neus, sydd â hanes gwych o ymgysylltu â chelf wyddoniaeth, rydym yn gobeithio creu adnodd newydd er mwyn i’r cyhoedd a llunwyr polisi ymgysylltu â chymuned cyflyrau genetig prin.
Dr Samuel Chawner Medical Research Foundation Fellow, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Dywedodd Ben a Neus o Phenotypica, “Rydym yn awyddus i sicrhau bod llais y gymuned yn rhan annatod o’r gwaith hwn a’n nod yw ei gwneud mor hygyrch â phosibl i bobl roi adborth i ni trwy gydol y prosiect hwn a gweithgareddau cysylltiedig yn y dyfodol.”

Lluniadau sialc yn y prosiect Share Your Rare yn ystod Syrcas Isatomig 2021

Dechreuodd yr ymgyrch ar-lein ac ymunodd â Syrcas Isatomig eleni, a gynhaliwyd gan Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd fel rhan o #SummerOfSmiles y ddinas.

Daeth y digwyddiad â theuluoedd ynghyd a daeth #ShareYourRare yn fyw wrth i safbwyntiau, atgofion a phrofiadau'r flwyddyn ddiwethaf gael eu cyfleu ar y palmant, ar bapur ac mewn cerddi.

Ysgrifennodd ymwelwyr gerddi cinquain a thynnu lluniau o’u hoff bethau neu brofiadau o'r haf hwn.

Roedd yn ddiwrnod gwych i'r dros mil o bobl a oedd yn bresennol.

Cymryd rhan

Gallwch chi hefyd gymryd rhan wrth i'r ymgyrch barhau i gael ei gynnal ar-lein.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a chymryd rhan i helpu i godi ymwybyddiaeth o gyflyrau iechyd meddwl a genetig prin, neu gysylltu â Sam ar chawnersj@caerdydd.ac.uk a dilyn #ShareYourRare a #CreativeComplexity ar Twitter.

Rhannu’r stori hon