Tarddle Maen Ceti wedi’i ddatgelu gan archaeolegwyr
12 Awst 2021
Safle hynafol a oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i nofel enwog i blant wedi’i ddatgloddio am y tro cyntaf erioed ac yn gysylltiedig â neuaddau’r meirw
Mae archeolegwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Manceinion wedi darganfod tarddle Maen Ceti, yr heneb gynhanesyddol enwog a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r bwrdd maen cyfriniol yn The Lion, The Witch and The Wardrobe.
Mae’r archaeolegwyr wedi dod o hyd i dystiolaeth bod y beddrod mawreddog yn Swydd Henffordd yn gysylltiedig â ‘neuaddau’r meirw’ gerllaw, a gafodd eu darganfod yn 2013.
Dyma’r tro cyntaf y mae’r adeiladwaith – yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r bwrdd maen yng nghlasur C.S. Lewis i blant – wedi’i ddatgloddio’n llawn.
Ac yntau’n dyddio’n ôl i 3700BC, mae Maen Ceti – heneb gofrestredig dan ofal English Heritage – yn eistedd ar ben bryn y tu allan i bentref Dorstone, sy'n edrych dros y Mynyddoedd Duon.
Yn flaenorol, roedd archaeolegwyr wedi tybio bod ei gapfaen enfawr, sy’n gorwedd ar nifer o feini cynhaliol a siambr lai â chyntedd sgwâr-onglog, wedi bod yn rhan o garnedd faen drionglog, fel y rhai a geir yn y Cotswolds a De Cymru.
Mae gwaith datgloddio a wnaed yr haf hwn – gan yr archaeolegwyr a myfyrwyr Archaeoleg o Brifysgol Caerdydd ar leoliad gwaith – i’r de o’r siambr gladdu, y tu allan i’r ardal dan ofal English Heritage, bellach yn dangos bod yr heneb wedi ymestyn i’r de o’r beddrod yn wreiddiol.
Wrth arwain y gwaith datgloddio, gwelodd yr Athro Anrhydeddus mewn Archaeoleg o Brifysgol Caerdydd, Keith Ray, a’r Athro Julian Thomas o Brifysgol Manceinion mai twmpath hir a oedd yn cynnwys tyweirch wedi’u stacio oedd y beddrod yn gyntaf, a oedd yn cael ei gynnal gan byst unionsyth wedi’u gosod mewn palisâd cul o amgylch y twmpath. Mewn gwirionedd, pan oedd y pyst wedi pydru’n ddim a’r twmpath wedi cwympo, ychwanegwyd pyst mwy, a oedd yn arwain at y twmpath o’r Dyffryn Aur oddi tanodd.
Mae'r twmpath cychwynnol, y gellir ei weld yn glir yn slot y palisâd a’r olion crasu sy’n weladwy o’r awyr o amgylch y siambrau maen, yn pwyntio at Dorstone Hill gerllaw.
Yn drawiadol, mae’r pyst a ychwanegwyd yn ddiweddarach, ynghyd â'r ddwy siambr faen a maen unionsyth yn union o'u blaenau, yn alinio ar y gorwel pell yn y bwlch rhwng Ysgyryd Fawr a Garway Hill i’r de-ddwyrain.
Dywedodd yr Athro Ray: “Darganfyddiad arbennig o ddiddorol oedd bod twmpath Maen Ceti’n cyfeirio’n uniongyrchol tua’r tri thwmpath o dyweirch a maen a adeiladwyd yn y cyfnod Neolithig cynnar yn Dorstone Hill hanner milltir i ffwrdd, y gwnaethom eu datgloddio rhwng 2011 a 2017.”
"Roedd y twmpathau hyn yn Dorstone Hill wedi gorchuddio’n fwriadol olion tri adeilad hirgul a phetryal enfawr o’r cyfnod Neolithig cynnar iawn. Mae hyn yn golygu y gall fod olion adeilad arall o’r fath o dan Faen Ceti ei hun. Rydym yn gobeithio archwilio'r posibilrwydd hwn drwy wneud gwaith datgloddio pellach yn 2022."
Mae'r gwaith datgloddio wrth Faen Ceti’n rhan o brosiect Beneath Hay Bluff, sydd wedi bod yn ymchwilio i hanes cynnar de-orllewin Swydd Henffordd ers 2010 o dan gyfarwyddyd Keith Ray a Julian Thomas, gyda’r cyfarwyddwyr cyswllt Nick Overton (Prifysgol Manceinion) a Tim Hoverd (Cyngor Swydd Henffordd).