Ewch i’r prif gynnwys

Gwaith adnewyddu WIDER-BE ar Adeilad Bute bron wedi'i gwblhau

11 Awst 2021

Hybrid studio, Bute building
Hybrid studio, Bute building

Disgwylir y bydd prosiect WIDER-BE (Addysg ac Ymchwil Dylunio Gwybodus yn yr Amgylchedd Adeiledig) sy'n cynnwys adnewyddiadau helaeth ar adeilad Bute, cartref Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn cael ei gwblhau ddechrau mis Medi.

Nod y prosiect oedd dod ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn ôl i un lleoliad yn Adeilad Bute, sydd wedi bod yn gartref iddi am y 100 mlynedd diwethaf.  Mae'r gwaith adnewyddu gwerth £9.7m wedi cynnwys adnewyddiadau helaeth y tu mewn i'r adeilad, gan gynnwys atgyweirio ac uwchraddio'r to ac adfer y Neuadd Ymgynnull wreiddiol yng nghanol yr adeilad rhestredig Gradd II hwn.

Bu uwchraddiadau sylweddol hefyd i du allan yr adeilad gan gynnwys creu lleoedd stiwdio mwy, goleuach a mwy hyblyg. Mae cyfleusterau gweithdy'r ysgol wedi cael eu hadleoli a'u hehangu'n sylweddol gyda gweithdy pren a metel mwy, cyfleusterau ffabrigo digidol ar gyfer creu modelau gan ddefnyddio'r technolegau torri laser diweddaraf, argraffu 3D a CNC (Rheoli Rhifol Cyfrifiadurol), a lle gwell ar gyfer elfen roboteg yr ysgol.

Mae'r manylion olaf bellach yn cael eu cadarnhau i adnewyddu'r fynedfa flaen, y gofod arddangos a'r labordy byw, a fydd yn helpu i gryfhau cysylltiadau rhwng yr ysgol, arferion pensaernïol a chymunedau lleol. Bydd y cam olaf hefyd yn datgelu ac yn adfer neuadd ymgynnull wreiddiol Birt Acres, gofod dau lawr yng nghalon yr adeilad, sydd wedi'i guddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar ôl iddo gael ei drawsnewid yn ddarlithfa yn y 1990au. Un o nodweddion allweddol treftadaeth Adeilad Bute a statws rhestredig Gradd II, yw'r ffaith y bydd y neuadd arddangos newydd hon yn ganolbwynt i'r adeilad unwaith eto.

Dywedodd Dr Juliet Davis, Pennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru:

'Bydd adnewyddu'r Adeilad Bute sydd wedi bod yn gartref i Ysgol Pensaernïaeth Cymru ers ei sefydlu ym 1920 yn nodi dechrau cyfnod newydd i'r ysgol. Bydd amseriad cwblhau'r gwaith yn berffaith ar gyfer Canmlwyddiant yr ysgol, gan helpu i gychwyn ein dathliadau. Fel addasiad o adeilad hanesyddol, mae'n ymgorffori ethos cynaliadwyedd hir-sefydlog yr ysgol. Gobeithio y bydd yn meithrin creadigrwydd a chydweithio, gan greu ffyrdd newydd o feddwl, ymchwilio, dysgu, ysgrifennu a chyflawni gwaith Pensaernïaeth am ddegawdau i ddod.'

Mae'r prosiect WIDER-BE bron â gorffen bellach gyda 4 o'r cyfnodau wedi'u cwblhau erbyn 6 Medi a'r neuadd arddangos yn barod erbyn 11 Hydref 2021.  Mae'r Ysgol yn edrych ymlaen at groesawu staff yn ôl ar 20fed Medi a myfyrwyr yn ôl ar 27fed Medi 2021, gydag agoriad swyddogol ar y gweill ym mis Mawrth 2022.

Hoffai Ysgol Pensaernïaeth Cymru ddiolch i dîm dylunio prosiect WIDER-BE: BDP Architects, Couch Perry Wilkes Engineering (M&E), AECOM (Peiriannydd Strwythurol), Gleeds (Rheoli Costau), Capita (Rheoli Prosiectau), Drama by Design (Dylunwyr AV) a'r tîm adeiladu R&M Williams, Lorne Stewart (M&E) a Reflex (Gosodwyr AV) sydd wedi gweithio'n agos gyda'r Ysgol i helpu i lunio a gwireddu dyluniad sydd wedi galluogi Ysgol Pensaernïaeth Cymru i barhau i fod yn ysgol bensaernïaeth sy'n arwain y byd ac sy'n gosod agenda yng Nghaerdydd.

Rhannu’r stori hon