Modelu mathemategol yn hanfodol i leihau lledaeniad Covid-19
5 Awst 2021
Mae arbenigwyr o'r Ysgol Mathemateg wedi creu ap ar-lein i ragweld bygythiad Covid-19 mewn lleoliadau addysgol i helpu i lywio polisi'r llywodraeth ynghylch dyfodol disgyblion sy'n dychwelyd i ysgolion.
Mae'r amcangyfrifydd hylaw yn gadael i'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau fewnbynnu gwybodaeth sy'n benodol i senario berthnasol - fel maint dosbarthiadau a grwpiau 'swigen' llai o faint - a bydd algorithm mathemategol cymhleth yn rhagweld datblygiad yr haint mewn amrywiol sefyllfaoedd.
Mae canlyniadau'r gwaith eisoes wedi helpu i ddylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu polisi gweithle a phreswyl AB ac AU. Defnyddiwyd y model i asesu effaith profion ac ymyriadau ar fyfyrwyr sy'n dychwelyd i golegau neu Neuaddau Preswyl o'u cyfeiriad cartref parhaol.
Mae Dr Thomas Woolley, sy'n Uwch-ddarlithydd a'r myfyriwr ymchwil Joshua Moore wedi gweithio ar y prosiect gyda'i gilydd ac yn ddiweddar wedi sicrhau cyllid Just One Giant Lab (JOGL) i droi eu modelu mathemategol yn ap y gellir ei ddefnyddio ac a fydd ar gael i lunwyr polisi.
“Ein cyfraniad yw cynhyrchu model o ledaeniad haint ar sail unigolion, sy'n rhannu'r boblogaeth sy'n agored i niwed yn grwpiau lleol a grwpiau nad ydyn nhw'n lleol,” esboniodd Dr Woolley. “Gellir defnyddio’r algorithm i ragfynegi datblygiad haint mewn sawl sefyllfa, lle mae unigolion yn naturiol yn ffurfio grwpiau, neu gliciau. Rydym ni'n canolbwyntio ar fodelu'r lleoliad addysgol, hynny yw ceisio rhagweld sut fydd profi, ynysu ac ymyriadau eraill yn dylanwadu ar ledaeniad yr haint mewn ysgolion uwchradd, lleoliadau Addysg Bellach (AB) (e.e. colegau) a lleoliadau Addysgu Uwch (AU) (e.e. Neuaddau Preswyl prifysgol).
"Er bod elfennau mathemategol yr efelychydd yn gadarn ac yn ddibynadwy, roedden ni am gyflymu'r broses a'i gwneud yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr, felly creodd Joshua yr amcangyfrifydd hylaw y gall unrhyw un ei ddefnyddio ac efelychu pa bynnag senario mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddi."
Mae eu gwaith ar fodelu lledaeniad Covid-19 hefyd wedi'i ystyried gan Dasglu Addysg Bellach ac Addysg Uwch Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, a'i gyflwyno i bwyllgor polisi Gwyddor yr Amgylchedd, i'w ddefnyddio wrth gynghori ar sut i agor mwy o fannau cymdeithasol cyffredinol, fel addoldai.
Gallwch weld yr ap cyfredol yma, lle ceir tiwtorialau fideo hefyd a grëwyd gan y tîm i helpu defnyddwyr i ddefnyddio'r amcangyfrifydd.