Harneisio'r Haul er mwyn mynd i'r afael â thlodi misglwyf
5 Awst 2021
Mae tywel misglwyf y gellir ei ail-ddefnyddio a allai ladd hyd at 99.9% o facteria pan fydd o dan olau haul yn cael ei ddatblygu gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r tîm yn datblygu math arbennig o ffabrig sy'n cael ei drwytho â metelau diwenwyn sy'n gweithredu fel catalydd, yn harneisio egni o'r Haul ac yn cynhyrchu cyfansoddion sy'n gallu lladd bacteria, cael gwared ar staeniau a niwtraleiddio arogleuon.
Gellir defnyddio'r deunydd mewn tywelion misglwyf y gellir eu hailddefnyddio neu drôns misglwyf cynnil, a fyddai'n cael eu rinsio â dŵr ac yna'n cael eu gadael i sychu yn yr haul i ddechrau'r broses lladd bacteria.
Credir y byddai'r cynnyrch, a amcangyfrifir sy'n costio rhwng $0.03 a $0.05, o fudd enfawr i bobl sy'n byw mewn gwledydd incwm isel a chanolig, lle mae mynediad at gynhyrchion misglwyf untro yn gostus ac yn gyfyngedig.
Mae tywelion misglwyf a thrôns misglwyf y gellir eu hailddefnyddio yn ddewis amgen ecogyfeillgar a chost isel yn lle cynhyrchion plastig untro; fodd bynnag, er mwyn eu defnyddio'n ddiogel mae angen trefn ddiheintio a golchi fanwl.
Mae mynediad at ddiheintyddion a dŵr glân yn brin mewn llawer o wledydd o gwmpas y byd, sy'n golygu y gall cynhyrchion presennol y gellir eu hailddefnyddio gynyddu'r risg o heintiau yn sylweddol.
“Gwelwyd bod defnyddio cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio sy'n afiach (unsanitary) yn cyfrannu at nifer uchel o heintiau yn y wain mewn gwledydd incwm isel a chanolig. Mae hyn yn creu anghysur cronig ac yn dyblu’r risg o gamesgoriad, a all fod yn angheuol mewn cymunedau sydd â darpariaeth feddygol wael," meddai arweinydd y prosiect, Dr Jennifer Edwards o Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd.
“Yn Nepal, er enghraifft, mae gan bron i hanner y gweithwyr amaethyddol benywaidd haint o’r fath ar unrhyw un adeg.”
Mae'r tîm eisoes wedi rhoi tystiolaeth ragarweiniol glir sy'n dangos y gall y Catalyddion Ffotoadweithiol (PAC) nad ydynt yn wenwynig harneisio egni o olau'r haul i gynhyrchu ynni cemegol, ar ffurf gronynnau sy'n lladd bacteria o'r enw rhywogaethau ocsigen adweithiol (ROS).
Gellir creu'r ROS mewn symiau sylweddol gan ddefnyddio'r catalyddion ac maent wedi dangos eu bod yn effeithiol yn lladd 99.9% o'r bacteriwm Deinococcus radiodurans mewn 15 munud yn unig pan fyddant mewn golau uwch-fioled.
Yn bwysicaf oll, mae'r tîm wedi dangos bod gweithgaredd gwrthfacterol yn digwydd o dan olau uwch-fioled yn unig ac yn aneffeithiol yn y tywyllwch, sy'n golygu bod y deunyddiau'n ddiniwed ac yn llai tebygol o achosi llid posibl wrth eu gwisgo o dan ddillad.
Diolch i gyllid newydd drwy'r Grand Challenges Explorations, menter gan Sefydliad Bill & Melinda Gates, mae'r tîm bellach yn archwilio sut y gellir defnyddio'r dechnoleg hon mewn deunydd addas y tu mewn i dywel misglwyf.
Ar yr un pryd, maent yn anelu at optimeiddio PACs fel y gellir eu defnyddio yn erbyn sbectrwm eang o bathogenau yn ogystal â lleihau cynhyrchion a lliw gwaed organig.
Aeth Dr Edwards ymlaen, “Ein nod cyffredinol yw creu deunydd hunan-lanhau wedi'i drwytho gan gatalydd a all ddarparu datrysiad rhad a hawdd ei ddefnyddio mewn cynhyrchion misglwyf y gellir eu hailddefnyddio er mwyn gwella iechyd menywod mewn cymunedau ledled y byd”.
“Mae ein canlyniadau cychwynnol yn dangos bod y dechnoleg eisoes yn hynod effeithiol wrth ladd bacteria yn gyflym yng ngolau'r haul, felly ein cyfrifoldeb ni nawr dros y 12 mis nesaf yw gwneud y gorau o'n proses a chreu cynnyrch sy'n effeithiol o ran lleihau'r tebygolrwydd o heintiau angheuol. ”