Cymdogion iach yn drech na chelloedd canser y pancreas
3 Awst 2021
Dim ond 7% o bobl sydd â chanser y pancreas sy'n goroesi am fwy na phum mlynedd. Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd yn helpu i ehangu gwybodaeth am y math hwn o ganser, gan obeithio llywio datblygiad triniaethau newydd.
Mae canser y pancreas yn aml yn datblygu heb symptomau, sy’n golygu ei fod yn anodd iawn gwneud diagnosis. Mae ymchwilwyr yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd yn gobeithio y bydd deall bioleg sut mae'r afiechyd hwn yn cychwyn yn arwain at strategaethau newydd a gwell i ganfod canser yn gynnar.
Trwy ddefnyddio modelau o ganser y pancreas, bu’r ymchwil yn canolbwyntio ar gyfnodau cynharaf y clefyd, pan fydd nifer fach o gelloedd yn datblygu mwtaniad mewn genyn o'r enw KRAS.
Dywedodd Dr Catherine Hogan, Prifysgol Caerdydd: “Y math mwyaf cyffredin o ganser y pancreas yw adenocarcinoma dwythellol pancreatig. Mae tua 95% o'r holl diwmorau adenocarcinoma dwythellol pancreatig yn cario mwtaniadau KRAS.
“Gan ddefnyddio modelau llygod o ganser y pancreas, aethom ati i holi a yw celloedd sy’n cario mwtaniadau KRAS i’w canfod mewn meinweoedd iach ac yn cystadlu â chymdogion arferol i dyfu i ffurfio tiwmorau.”
Nod yr ymchwil oedd deall a yw celloedd â mwtaniad KRAS yn osgoi'r mecanweithiau amddiffynnol arferol o fewn y corff, sy'n dileu celloedd â mwtaniadau peryglus o feinweoedd iach.
“Fe ddefnyddion ni dechnegau genetig i fynegi ffurf y genyn KRAS oedd â’r mwtaniad, KrasG12D, mewn celloedd mewn gwahanol rannau o'r pancreas ac atodi label fflwroleuol i'r celloedd â’r mwtaniad er mwyn olrhain eu hynt dros amser.
“Gwelsom fod y meinweoedd pancreatig aeddfed yn mynd ati i ddileu celloedd â mwtaniad KRAS er mwyn atal y canser rhag datblygu. Fodd bynnag, fe welwyd hefyd, os nad oes gan y celloedd signal cyfathrebu rhwng celloedd a’i gilydd, o'r enw EphA2, nad yw’r celloedd â’r mwtaniad yn cael eu dileu, ac y gallant fynd ymlaen i dyfu a datblygu i fod yn diwmorau cynnar.
“Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod celloedd â mwtaniad KRAS yn cystadlu i oroesi mewn meinweoedd, sy’n awgrymu bod yn rhaid i gelloedd â mwtaniad allu diystyru signalau cystadleuol o gelloedd arferol er mwyn osgoi cael eu canfod a’u dileu. Mae'n dal yn aneglur sut mae’r celloedd hyn â’r mwtaniad yn caffael y fantais hon, a dyna ffocws ein labordy ar hyn o bryd.
“Gallai deall sut mae celloedd arferol yn drech na chelloedd â mwtaniad ddarparu ffyrdd newydd o frwydro yn erbyn canser. Gallai’r wybodaeth newydd hon arwain at ddatblygu strategaethau canfod canser cynnar newydd a gwell,” ychwanegodd Dr Hogan.