Recriwtio yn dechrau ar gyfer grŵp cynghori ieuenctid newydd
9 Awst 2021
Mae Canolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson yn gwahodd pobl ifanc i ffurfio grŵp cynghori ieuenctid newydd.
Mae tîm Canolfan Wolfson am recriwtio pobl ifanc rhwng 14-25 oed sydd â phrofiad o iechyd meddwl i ymuno â'u Grŵp Cynghori Ieuenctid newydd.
Dywedodd yr Athro Frances Rice, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson “Hoffem ni wahodd pobl ifanc i gymryd rhan mewn rhaglen ymchwil barhaus i’n helpu i siapio’r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghanolfan Wolfson."
“Rydyn ni eisoes wedi cynhyrchu llawer o ymchwil yn y maes hwn ar draws yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol. Nawr rydyn ni eisiau gwneud mwy i weithio ar y cyd â phobl ifanc sydd â phrofiad byw o'r heriau rydyn ni'n gweithio arnyn nhw - rydyn ni am roi'r profiadau a'r lleisiau hyn wrth galon gwaith y Ganolfan”.
Ychwanegodd Emma Meilak, Swyddog Gweinyddol Canolfan Wolfson sy'n arwain ffurfio'r grŵp “Bydd ein Grŵp Cynghori Ieuenctid yn helpu i lunio gwaith y Ganolfan trwy ein tywys ar y cwestiynau ymchwil sy'n bwysig i bobl ifanc, yn ogystal â'n cynghori ar sut rydym yn ymgymryd â'n hymchwil."
“Hoffem ni i bobl ifanc ein cynorthwyo i ddeall beth mae canfyddiadau’r ymchwil yn ei olygu iddyn nhw ac awgrymu sut y gellid defnyddio’r canfyddiadau i wella’r hyn sy’n digwydd mewn bywyd go iawn i bobl ifanc sydd â phrofiad byw o heriau iechyd meddwl.”
Bydd mewnwelediadau o'r grŵp yn cael eu cyfleu'n uniongyrchol i Fwrdd Gweithredu ac Ymgysylltu Canolfan Wolfson sy'n cynnwys cynghorwyr i'r llywodraeth, llunwyr polisïau, elusennau sy'n cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc, yn ogystal â phobl sy'n gweithio i bobl ifanc a gyda nhw, fel meddygon a seicolegwyr.
Am eu mewnbwn, bydd pobl ifanc yn derbyn hyfforddiant mewn dulliau ymchwil a sgiliau eraill a allai apelio, megis ysgrifennu CV, cadeirio cyfarfod, a chynhyrchu cynnwys digidol ar gyfer platfformau cyfryngau digidol a chymdeithasol y Ganolfan.
Professor Rice concluded, "We are thrilled with the response we’ve received so far since beginning our recruitment for the Youth Advisory Group last month but there’s still plenty of time for interested young people to sign up."
Gorffennodd yr Athro Rice: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r ymateb rydyn ni wedi’i gael hyd yn hyn ers dechrau ein recriwtio ar gyfer y Grŵp Cynghori Ieuenctid y mis diwethaf ond mae digon o amser o hyd i bobl ifanc sydd â diddordeb ymuno."
I fynegi eich diddordeb neu ddysgu mwy am gymryd rhan, cysylltwch â wolfsonyoungpeople@caerdydd.ac.uk