Pennaeth Ysgol yn ymuno â bwrdd golygyddol cyfnodolyn cyfraith blaenllaw
2 Awst 2021
Penodwyd Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, yr Athro Urfan Khaliq i fwrdd golygyddol cyfnodolyn cyfraith ryngwladol o fri.
Mae International & Comparative Law Quarterly (ICLQ) yn un o'r cyfnodolion cyfraith uchaf ei barch yn y byd; mae'n cyhoeddi papurau gan arbenigwyr byd-eang ar gyfraith ryngwladol gyhoeddus a phreifat, cyfraith gymharol, hawliau dynol a chyfraith Ewropeaidd.
Daw'r Athro Khaliq â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i fwrdd ICLQ. Mae'n Athro Deddfau Cyhoeddus Rhyngwladol ac Ewropeaidd ond mae ei ddiddordebau ymchwil ac addysgu hefyd yn cwmpasu ystod eang o feysydd yn cynnwys Cyfraith Gydwladol Hawliau Dynol, Polisi Tramor ac agweddau ar Gyfraith Islamaidd. Mae'n cyfrannu'n rheolaidd i BBC Cymru a BBC World Service ac mae wedi gweithredu fel cynghorydd i nifer o gyrff anllywodraethol, llywodraethau a sefydliadau rhyngwladol.
Sefydlwyd yr ICLQ yn 1952 ac mae wedi meithrin enw da am gyhoeddi erthyglau arloesol a gwreiddiol mewn meysydd amrywiol, gan archwilio cysylltiadau rhwng meysydd pwnc. Mae'n cynnig sylw amserol eang i academyddion ac ymarferwyr, heb gyfaddawdu ei safonau golygyddol trylwyr.
Mae'r cyfnodolyn yn denu ysgolheictod o'r safon uchaf o bob cwr o'r byd sy'n golygu bod ganddo gylch cyfeiriol gwirioneddol ryngwladol. Mae'r adran Erthyglau Byrrach a Nodiadau'n bwydo trafodaethau ar faterion cyfreithiol cyfoes ac mae'r Adolygiadau Llyfrau'n tynnu sylw at y cyhoeddiadau newydd pwysicaf mewn meysydd perthnasol. Yr ICLQ yw cyfnodolyn Sefydliad Cyfraith Ryngwladol a Chymharol Prydain ac fe'i cyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caergrawnt.
Wrth siarad am ei benodiad i’r bwrdd, dywedodd yr Athro Khaliq, “Mae pawb sy’n gweithio yn yr iaith Saesneg ym meysydd Cyfraith Ryngwladol, Ewropeaidd neu Gymharol yn gwybod bod yr ICLQ yn un o’r lleoedd i gael eu cyhoeddi. Mae'n dod ag ysgolheigion ac ymarferwyr (preifat, llywodraethol, melinau trafod ac ati) at ei gilydd o bob cwr o'r byd a chaiff ei ddarllen ym mhob man y caiff y gyfraith ei hastudio neu ei hymarfer. Mae'n gyfnodolyn roeddwn i’n ei ddarllen gydag edmygedd fel myfyriwr, ac mae ymuno â'r bwrdd golygyddol nawr yn anrhydedd enfawr ond hefyd yn gyfrifoldeb - fel y gallaf weithio gydag aelodau eraill y bwrdd golygyddol i sicrhau bod y cyfnodolyn yr un mor bwysig i genedlaethau o ysgolheigion y presennol a'r dyfodol ag y bu erioed."