O letygarwch i'r sector treftadaeth
30 Gorffennaf 2021
Mae cyn-weithiwr ym maes lletygarwch sydd wedi parhau ar hyd yr amser i fod yn frwd iawn am astudio, ond roedd salwch wedi ei hatal rhag gwneud hyn yn y gorffennol, wedi graddio heddiw â Dosbarth Cyntaf.
Bydd Rhiannon Jenkins, 27, a aeth ymlaen i ddilyn ei gradd Archeoleg o raglen llwybr Archwilio'r Gorffennol Prifysgol Caerdydd, yn dathlu’r hyn y mae wedi ei gyflawni fel rhan o Ddosbarth 2021 yn y seremonïau graddio rhithwir eleni.
Ond nid oedd ennill gradd yn y pwnc hwn bob amser yn rhan o gynllun Rhiannon.
Cafodd y cyfle i fynd i'r brifysgol a dechrau gradd mewn economeg a busnes, ond ar ôl ychydig o wythnosau gorfu iddi roi gorau i’r cwrs oherwydd salwch. Gwnaeth y penderfyniad anodd i ddychwelyd adref i Lanilltud Faerdre
Pan welhaodd ei hiechyd, symudodd yn agosach i Gaerdydd a gweithio mewn caffis a bwytai am bedair blynedd. Un diwrnod yn y gwaith, daeth ar draws taflen yn hysbysebu'r rhaglen Llwybr Archwilio’r Gorffennol.
Dyma a ddywedodd: “Ers yr ysgol roeddwn wedi bod â diddordeb mewn hanes ac archeoleg ac roeddwn i bob amser yn gwylio fideos YouTube am y math yna o beth. Erbyn hyn, roeddwn i wedi diflasu ar weithio ym maes lletygarwch ac roeddwn i'n meddwl bod y cwrs yn ddiddorol ac yn wahanol. Roeddwn i eisiau rhoi cynnig arni.”
Rhaglen sy'n trawsnewid bywydau
Mae Archwilio'r Gorffennol yn cynnig y cyfle i ddysgwyr sy'n oedolion, sydd yn aml wedi bod i ffwrdd o addysg ffurfiol neu sydd heb gymwysterau perthnasol blaenorol. Mae hwn yn gyfle i brofi dysgu ac addysgu sy’n debyg i flwyddyn gyntaf astudiaethau israddedig. Ar ôl cwblhau'r rhaglen Llwybr yn llwyddiannus, mae dysgwyr yn gymwys i gael cyfweliad i symud ymlaen i gynllun gradd.
Wrth astudio ei BSc mewn Archeoleg, penderfynodd Rhiannon achub ar yr holl gyfleoedd a oedd ar gael iddi drwy gymryd rhan yn un o Raglenni Cyfleoedd Ymchwil Prifysgol Caerdydd ym Mryngaer Gudd Treftadaeth CAER , mynd i Ŵyl Bluedot gyda'r Guerilla Archaeology Collective a chyfrannu at brosiect pan siaradodd â phlant ysgol lleol am hanes.
“Roeddwn i wrth fy modd â’r profiadau hynny a chefais i lawer o hwyl wrth ddyfnhau fy ngwybodaeth ar yr un pryd,” meddai Rhiannon wrth gofio’r profiad.
Ar ôl graddio, mae Rhiannon yn bwriadu astudio ar gyfer gradd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd ochr yn ochr â'i swydd newydd yn gweithio'n rhan-amser yn y sector treftadaeth.
Dyma a ddywedodd: “Doeddwn i ddim wir yn meddwl y byddwn i’n graddio gyda Dosbarth Cyntaf pan ymunais i, ond gosodais i’r nod imi fy hun i gael marciau uchel a dwi’n difaru dim.
“Mae Archwilio’r Gorffennol wedi helpu i newid fy mywyd.”
Mae Rhiannon yn un o’r 56 o ddysgwyr Archwilio'r Gorffennol sydd wedi symud ymlaen i astudio gradd ers iddo ddechrau ddegawd yn ôl, ac mae’n un o 26 sydd wedi cwblhau eu gradd hyd yn hyn.
“Y bobl fwyaf anhygoel, ysbrydoledig”
Roedd Hayley Bassett, 50, o Bort Talbot yn ne Cymru yn rhan o'r garfan gyntaf un, gan ymuno â'r rhaglen ym mis Medi 2010.
Yn fam ac yn ofalwraig amser llawn i'w merch sydd ag anawsterau dysgu, anawsterau symudedd ac awtistiaeth, aeth Hayley ymlaen i astudio gradd ran-amser mewn Hanes yr Henfyd a'r Oesoedd Canol, yna cafodd ysgoloriaeth ar gyfer ei gradd Meistr mewn Astudiaethau Prydeinig Canoloesol ac ar hyn o bryd mae hi’n gwneud ymchwil ôl-raddedig fel rhan o'i PhD.
Dyma a ddywedodd Hayley: “Cofrestrais ar fodiwlau cyntaf Archwilio'r Gorffennol ym mis Medi 2010 oherwydd fy mod i eisiau dysgu rhywbeth newydd a dod o hyd i ddiddordeb y gallwn i ei fwynhau a rhoi o’r neilltu straen bywyd bob dydd. Doedd gen i ddim amcan go iawn mewn golwg, ond ar ôl y ddau fodiwl cyntaf, roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau parhau i astudio.
“Rhoddodd modiwlau Archwilio’r Gorffennol fwy na chyflwyniad i addysg prifysgol imi, cefais i’r cyfle i ddysgu sgiliau rwy wedi gallu eu cymhwyso i bob agwedd ar fy mywyd. Rhoddodd adborth adeiladol a chefnogaeth fugeiliol y tiwtoriaid hyder imi a ffydd yn fy ngallu, rhywbeth yr oeddwn i wedi bod yn brin ohono o'r blaen.
Yn sgîl pandemig COVID-19, mae tiwtoriaid a myfyrwyr Archwilio’r Gorffennol wedi wynebu heriau newydd ac oherwydd hyn, yn ystod 2020-21, cyflwynwyd y Llwybr ar-lein am y tro cyntaf.
“Roedd yr addysgu a gefais i’n wych!”
Roedd Lisa Mapley, 47, o Gwmfelinfach ymhlith y rhai a ymunodd yn ystod y pandemig. Teimlai nad oedd astudio ar gyfer gradd yn opsiwn iddi. Ond roedd Lisa bob amser wedi bod eisiau dysgu mwy ac roedd hi’n gwybod ei bod hi'n gallu astudio yn y brifysgol. Doedd hi ddim yn gwybod sut i ddechrau hyd nes i ffrind ddweud wrthi am fenter Llwybrau gradd Prifysgol Caerdydd.
Dyma a ddywedodd: “Pan oeddwn i’n iau, roedd disgwyl imi adael yr ysgol, dechrau gweithio ac ennill arian. Yn ddiweddarach, roeddwn i yn fy mhedwardegau, yn anabl ac yn teimlo'n isel, pan glywais i gyntaf am Archwilio'r Gorffennol. Rwy bob amser wedi ymddiddori’n fawr mewn hanes ac roeddwn i'n gwybod y byddwn i wrth fy modd yn dysgu mwy am y pwnc.
“Cwblheuais i’r Llwybr yn ystod y cyfnod clo pan roedd yr holl ddysgu yn cael ei gyflwyno ar-lein. Roedd yr addysgu a gefais i’n wych! Cefais i gymaint o gefnogaeth hefyd. Cefais i fy arwain drwy'r broses o wneud cais am fy ngradd a'r opsiynau cyllido a oedd ar gael i mi gan gynnwys y cymorth Lwfans i Fyfyrwyr Anabl. A bellach rwy wedi cwblhau fy mlwyddyn gyntaf yn astudio BA mewn Hanes yr Henfyd a’r Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dyma a ddywedodd Dr Dave Wyatt, Darllenydd mewn Hanes yr Oesoedd Canol Cynnar ac Ymgysylltu â'r Gymuned a sylfaenydd llwybr Hanes, Archeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Rydw i wir mor falch o bob un o'r 56 dysgwr sydd wedi symud ymlaen i raglenni gradd ers inni ddechrau. Mae taith pob un ohonyn nhw’n ysbrydoliaeth!
Yn ystod ei deng mlynedd, enillodd y rhaglen Archwilio'r Gorffennol wobr Canmoliaeth Uchel gan Gymdeithas y Prifysgolion dros Ddysgu Gydol Oes a lansiodd y rhaglen ei chyfres o ddarlithoedd yn rhad ac am ddim ei hun mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Hanesyddol.
Archwilio’r Gorffennol, a lansiwyd yn 2011, oedd Llwybr cyntaf Prifysgol Caerdydd at raglenni gradd. Mae’r fenter, sy’n adlewyrchu ymrwymiad y sefydliad i ehangu cyfranogiad ym myd Addysg Uwch, wedi tyfu'n gyflym iawn ers hynny, gan gynnig deg rhaglen sy'n ymwneud â meysydd gan gynnwys Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Ysgrifennu Creadigol, Athroniaeth, y Gwyddorau Cymdeithasol, Busnes, Gofal Iechyd, Ieithoedd Modern, Cyfieithu, Newyddiaduraeth, Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth.
Dewch i wybod rhagor am lwybr Prifysgol Caerdydd at raglenni gradd.