Gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn sicrhau £230k i helpu i ddatgloi imiwnotherapi ar gyfer dynion â chanser y prostad
29 Gorffennaf 2021
Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn ymchwilio i sut mae canser y prostad yn effeithio ar y system imiwnedd, diolch i gyllid gan Prostate Cancer UK.
Mae'r tîm, dan arweiniad yr Athro Aled Clayton, wedi cael grant gwerth dros £230,000 i'w helpu i nodi pa ddynion a allai elwa o imiwnotherapïau newydd pwerus. Mae'r grant yn rhan o £1.7m y mae'r elusen wedi'i roi i bum prosiect ledled y DU.
Mae imiwnotherapïau wedi bod yn effeithiol iawn wrth drin mathau eraill o ganser ond, hyd heddiw, nid ydynt wedi bod mor llwyddiannus wrth drin dynion â chanser y prostad. I oresgyn hyn, bydd yr Athro Aled Clayton a'i dîm yn defnyddio technoleg o’r radd flaenaf i fapio celloedd y system imiwnedd sydd i’w gweld mewn tiwmorau canser y prostad. Byddant hefyd yn dod o hyd i foleciwlau sy’n cael eu rhyddhau gan y canser a all atal y celloedd hyn rhag gweithio.
Drwy astudio samplau ar wahanol gamau o'r clefyd, mae'r ymchwilwyr yn gobeithio deall sut mae canser y prostad yn effeithio ar y system imiwnedd dros amser, a hynny er mwyn iddynt allu nodi ffyrdd gwell o ragweld a monitro ymateb dynion i imiwnotherapi.
Dywedodd yr Athro Clayton, sydd wedi'i leoli yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru: “Mae celloedd canser y prostad yn rhyddhau pecynnau bach o foleciwlau i'r gwaed sy’n gallu atal celloedd y system imiwnedd rhag ymosod arnynt. Ein nod yw datblygu dulliau newydd o ddod o hyd i’r pecynnau hyn er mwyn i ni allu cael syniad gwell o’r rheswm pam mae rhai canserau'r prostad yn ymateb i imiwnotherapi ond nid eraill.
“Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio y gallai hyn arwain at brofion gwaed i weld a yw math penodol o imiwnotherapi’n debygol o weithio ai peidio. Byddai hyn yn helpu i sicrhau bod dynion yn cael y driniaeth orau bosibl ar gyfer eu canser.”
Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion, ac mae'n lladd un dyn bob 45 munud yn y DU.
Dywedodd Simon Grieveson, Pennaeth Ymchwil Prostate Cancer UK: “Mae imiwnotherapi wedi chwyldroi sut rydym yn trin sawl math o ganser ond, hyd yma, dim ond nifer fach o ddynion â chanser y prostad sydd wedi elwa ohono. Dyna pam rydym yn buddsoddi dros £1.7m mewn ymchwil i gyflymu cynnydd yn y maes hwn a helpu i ddatblygu triniaethau mwy effeithiol ar gyfer dynion â chanser y prostad.
“Mae cyllido astudiaethau arloesol sy’n mynd i’r afael â chanser y prostad mewn ffordd newydd yn hanfodol i atal cymaint o ddynion rhag marw o’r clefyd. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae prosiect yr Athro Clayton yn dod yn ei flaen dros yr ychydig flynyddoedd nesaf a'r gwahaniaeth y bydd yn ei wneud i fywydau dynion.”