Cynhadledd Ymchwil i Wasanaethau Iechyd 2021
28 Gorffennaf 2021
Ym mis Gorffennaf, bu aelodau'r tîm CUREMeDE'n rhan o gynhadledd ar-lein Ymchwil i Wasanaethau Iechyd (HSR) y DU. Gwnaethom fynychu paneli, cymryd rhan mewn trafodaethau, a chreu tri o gyflwyniadau wedi'u recordio am ein gwaith parhaus a diweddar.
Cyflwynodd Felicity Morris drosolwg ac ychydig o'i data cynnar o'i hastudiaeth PhD barhaus o'r enw 'Meddygon Cysylltiol yng Nghymru'. Trafododd Felicity dri o ganfyddiadau cychwynnol o gyfweliadau wedi'u lled-strwythuro'n rhan o gam peilot yr astudiaeth; cyfraniad MCau i'w timau amlddisgyblaethol, y broses o bontio o fod yn fyfyriwr i fod yn MC newydd gymhwyso ac effaith pandemig Covid-19 ar MCau yng Nghymru.
Disgrifiodd Sophie Bartlett ganfyddiadau 'Gwerthusiad Arhydol Rhaglen Cyn Cofrestru Aml-sector ar gyfer Fferyllwyr yng Nghymru'. Archwiliodd yr astudiaeth brofiadau a synnwyr o barodrwydd fferyllwyr wnaeth gwblhau rhaglen cyn-cofrestru sy'n cynnig profiad mewn lleoliadau cymunedol, ysbyty a gofal sylfaenol gydol y flwyddyn. Mae hyn mewn cyferbyniad i raglenni traddodiadol un-sector. Amlygodd Sophie farn nid yn unig y fferyllwyr a'u tiwtoriaid hyfforddi yn ystod y rhaglen ac ar ei diwedd hi, ond hefyd barn arhydol y fferyllwyr a'u rheolwyr llinell unwaith yr oedd y fferyllwyr wedi treulio blwyddyn yn ymarfer ar ôl cymhwyso.
Cyflwynodd Dorottya Cserző sgwrs o'r enw ‘Proffesiynoldeb mewn arfer deintyddol: pwysigrwydd cyfathrebu'n dda’.
Mae'r cyflwyniad hwn yn adeiladu ar brosiect 'Proffesiynoldeb ym maes Deintyddiaeth a pharodrwydd ar gyfer ymarfer' a gynhaliwyd ar y cyd â Chymdeithas Addysg Ddeintyddol yn Ewrop (i gael rhagor o wybodaeth ar y prosiect hwn ewch i dudalen y prosiect). Roedd y sgwrs yn canolbwyntio ar ganfyddiadau'r grwpiau ffocws yn archwilio dealltwriaeth am broffesiynoldeb yng nghyd-destun gofal deintyddol. Amlygodd Dorottya nodweddion oedd yn gorgyffwrdd a thebygrwydd rhwng sut mae deintyddion, gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol a'r cyhoedd yn trafod proffesiynoldeb.