Eich llwybr at ennill gradd o Brifysgol Caerdydd
28 Gorffennaf 2021
Nid yw pawb yn barod i astudio gradd yn ddeunaw oed. Weithiau mae digwyddiadau bywyd yn amharu ar bethau neu, yn syml, dyw’r amser ddim yn iawn.
Os ydych chi bellach yn teimlo'n barod i wireddu eich breuddwyd o astudio gradd yna gall ein hystod o Lwybrau eich helpu chi i gymryd y cam cyntaf hwnnw.
Bob blwyddyn rydym yn croesawu myfyrwyr sydd heb fod mewn addysg ffurfiol ers cryn amser yn dychwelyd i astudio Llwybr rhan-amser, sydd yna’n arwain at astudio gradd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd neu brifysgol arall. Byddwch yn derbyn cyngor a chefnogaeth gyda'ch cais ac, erbyn ichi gwblhau'r Llwybr, byddwch yn teimlo'n hollol barod i ddechrau eich gradd.
Trefnir cyrsiau llwybr gyda'r nos ac ar benwythnosau i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau gwaith a theulu a bydd rhai cyrsiau'n cael eu cynnal ar-lein. Os yw talu am eich Llwybr yn achosi pryder i chi, efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru, a all helpu gyda ffioedd cwrs a chostau byw. Mae amrywiaeth o bynciau ar gael gan gynnwys:
- Rheoli Busnes, Marchnata a Chyfrifeg
- Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg, Ysgrifennu Creadigol ac Athroniaeth
- Gofal Iechyd
- Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
- Ffarmacoleg Feddygol
- Ieithoedd Modern
- Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant
- Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth
- Y Gwyddorau Cymdeithasol
- Cyfieithu
Mae ein myfyrwyr yn aml yn rhoi gwybod i ni am eu llwyddiannau. Gobeithio y byddan nhw'n eich ysbrydoli a'ch annog chi i ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth hefyd:
“Roeddwn yn awyddus i astudio ffarmacoleg am gyfnod; fodd bynnag, ches i mo’r graddau Safon Uwch angenrheidiol i astudio yng Nghaerdydd. Ar ôl dod o hyd i'r cwrs Llwybr, roeddwn i'n gwybod mai dyma’r anogaeth roedd ei hangen arnaf i gael lle i astudio’r pwnc roeddwn am ei astudio, yn y brifysgol roeddwn eisiau mynd iddi.
“Roedd y cwrs, ynghyd â’r gefnogaeth a dderbyniwyd, yn llawer gwell nag oeddwn i’n disgwyl. Mae'r anogaeth gan y tiwtoriaid ynghyd â'r deunyddiau dysgu yn helpu i wella ein gwybodaeth ac i gredu ynoch chi'ch hun y gallwch symud ymlaen i astudio eich gradd."
Molly Hill - Llwybr at Ffarmacoleg Feddygol
“Roedd y llwybr wir wedi fy mharatoi i astudio’r radd rwy’n ei hastudio nawr ym Mhrifysgol Caerdydd. Y gwirionedd yw nad wyf erioed wedi bod yn hapusach. Rwyf wrth fy modd yn astudio ar gyfer fy ngradd, a byddaf ar fy lleoliad gwaith cyntaf fis nesaf. Bod yn lasfyfyriwr yn 40 oed yw'r peth gorau i mi ei wneud erioed!
Debbie Reeves
Rwy’n hynod ddiolchgar i’r Llwybr am y cyngor, y gefnogaeth a’r anogaeth a gefais, ac wrth gwrs, i’r tîm bendigedig o diwtoriaid wnaeth ein paratoi ar gyfer yn hyn oedd i ddod ar y cwrs gradd! Mae’r Llwybr yn ysbrydoliaeth fawr i’r rheini sydd am fynd â’u haddysg ymhellach. Ni feddyliais erioed y gallwn gyflawni’r fath lwyddiant, tan imi ddatgelu fy mhotensial go iawn!
Graddiodd Simba Chabarika o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn 2019.
Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ymddiddori mewn Hanes, Archaeoleg neu Astudiaethau Crefyddol i wneud yr un peth â fi. Yn aml, yr hyn a glywaf yw "mae'n rhy hwyr i mi" neu "dwi’n methu ei fforddio," ond pan fyddaf yn dangos iddynt ba gyfleoedd sydd ar gael – yr un cyfleoedd a gefais i – bydd y dyhead yn troi'n fyw yn union yr un modd ag y gwnaeth i mi.
Graddiodd Ioan McCarthy yn 2019 ac mae Ioan bellach yn astudio MSc mewn Archeoleg ym Mhrifysgol Rhydychen
I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.cardiff.ac.uk/cy/learn neu ebostiwch pathways@caerdydd.ac.uk