Myfyriwr yn goresgyn heriau COVID-19 i raddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Biocemeg
27 Gorffennaf 2021
Cwtogwyd Blwyddyn Hyfforddi Proffesiynol Lily Thomas gan y pandemig, gan orfodi ymadawiad sydyn o’r Eidal lle'r oedd yn gweithio ar gynhyrchu dresin newydd cwbl fioddiraddadwy ar gyfer clwyfau
Fel pob myfyriwr, does dim prinder heriau wedi wynebu Lily Thomas yn sgil pandemig COVID-19.
Yn 2020 roedd y myfyriwr Biocemeg yn gweithio ar ei Blwyddyn Hyfforddi Proffesiynol yn Ysgol Peirianneg Gemegol Prifysgol Pisa. Mae'r Flwyddyn Hyfforddi Proffesiynol yn gyfle i fyfyrwyr gael deuddeng mis o brofiad gwaith, a hynny'n aml mewn labordy.
"Ar ôl cwblhau prosiect haf mewn labordy, roeddwn i'n awyddus iawn i gynnal prosiect ymchwil estynedig i weld a oedd ymchwil yn llwybr gyrfa posib i mi. Roeddwn am fy ngwthio fy hun drwy gynnal prosiect mewn maes gwahanol iawn, ond un sy'n dod â llawer o ddisgyblaethau at ei gilydd."
Cymerodd Lily ran yn y prosiect PolyBioskin, oedd yn golygu cynhyrchu dresin clwyfau cwbl fioddiraddadwy trwy nyddu nanoffibrau a'u gorchuddio gyda nanoronynnau. Caiff y dresin ei ddefnyddio ar gyfer cleifion gyda doluriau cronig, fel y rheini a welir gyda diabetes, er mwyn atal haint, lleihau llid a chaniatáu iachâd, a hefyd osgoi creithio.
Gyda dyfodiad y pandemig, bu'n rhaid i Lily adael yr Eidal ar frys. Gyda chau Prifysgol Pisa doedd dim modd iddi gael gafael ar ei data a bu'n rhaid iddi aros tan i arferion gwaith newydd, gan gynnwys dros Zoom, alluogi iddi gwblhau'r prosiect.
Er gwaethaf yr anawsterau, roedd y prosiect yn hynod lwyddiannus a chanfuwyd fod gan y prototeip nodweddion gwrthlidiol ac iachau clwyfau addawol. Hefyd cydysgrifennodd Lily ei phapur gwyddonol cyntaf.
Roedd dychweliad Lily i Gaerdydd ym mis Medi 2020 yn brofiad gwahanol iawn i’r hyn a gafodd mewn blynyddoedd blaenorol. Ar y dechrau, roedd yn ei chael yn anodd cadw cymhelliant a tharo cydbwysedd rhwng astudio ac ymlacio, a hithau wedi'i chyfyngu i un ystafell.
"Roedd rhaid i mi amserlennu fy nyddiau i sicrhau cydbwysedd gwaith/bywyd. Gyda'r flwyddyn olaf yn un llawn straen beth bynnag, roedd methu â bod yn yr amgylchedd dysgu oedd yn gyfarwydd i fi yn gwneud pethau'n waeth rywsut. Rwy'n credu bod y staff a'r myfyrwyr wedi addasu orau y gallen nhw ac ar y cyfan, rwyf i wedi cael profiad dysgu gwerthfawr eleni ac wedi mwynhau'r modiwlau a ddewisais yn fawr! Roedd fy nhiwtor personol a darlithwyr y modiwlau'n hynod gefnogol ac yn deall, a helpodd hynny i wneud flwyddyn gystal ag y gallai fod."
Talodd ymdrechion Lily ar eu canfed ac mae'n graddio gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Biocemeg.
Dywed: "Roeddwn i wrth fy modd ag elfennau labordy'r radd, oedd yn syndod mawr i fi; fy uchafbwyntiau yw'r sesiwn ymarferol wythnos o hyd yn yr ail flwyddyn yn gweithio ar therapi ar gyfer Ffibrosis Systig a chynnal fy mhrosiect blwyddyn olaf yn ymchwilio i ran o brotein pilen, P2X7.”
Bydd Lily yn mynd yn ei blaen i astudio PhD yn uned Tocsicoleg Prifysgol Caergrawnt. Bydd ei phrosiect yn canolbwyntio ar strwythur cromatin a thrawsgrifio genynnau mewn straen cellog a bydd y canfyddiadau'n cyfrannu at ymchwil ym meysydd canser a chlefydau llidiol.