Sŵarchaeoleg yn datgloi datblygiad y diwylliant Nuragig yn Sardinia gynhanesyddol
26 Gorffennaf 2021
Y technegau gwyddonol diweddaraf i ddatgelu ymddygiadau a ffurfiodd y diwylliant dirgel a enwyd ar ôl ei dŵr-gaerau byd-enwog
All ymwelwyr â Sardinia ddim peidio â sylwi ar y tŵr-gaerau mawr ar hyd y dirwedd, gydag un i’w weld ym mhob tri chilomedr sgwâr ar yr ail ynys fwyaf ym Môr y Canoldir.
Er bod y Su Nuraxi trawiadol yn Barumini wedi'i gydnabod gyda statws safle treftadaeth y byd, bydd llai o bobl yn gwybod bod y 7,000+ o nuraghi – sydd i'w gweld yn Sardinia yn unig – yn waddol y bobl Nuragig cynhanesyddol a ffynnodd yn ystod yr Oes Efydd a Haearn, gan barhau o bosibl tan i'r ynys gael ei gwladychu gan y Ffeniciaid, y Carthaginiaid ac yn y pen draw y Rhufeiniaid.
Er bod etifeddiaeth goffaol y diwylliant Nuragig yn amlwg i bawb ei weld, mae'r modd y defnyddiodd y bobl ddyfeisgar hyn y dirwedd i fagu anifeiliaid, adeiladu eu heconomi a chyfrannu at systemau gwleidyddol yn parhau'n ddirgelwch.
Nawr mae prosiect ymchwil sŵarchaeoleg pwysig dros ddwy flynedd yn defnyddio'r technegau gwyddonol diweddaraf i ateb y cwestiynau hyn am y tro cyntaf.
Mae'r astudiaeth fanwl a'r ailasesiad o ddeinameg gymdeithasol Nuragig a ddarperir gan ZANBA: Zooarchaeology of the Nuragic Bronze Age yn amserol gan fod darganfyddiadau archeolegol newydd yn awgrymu bod y diwylliant hwn wedi chwarae rhan bwysicach yn rhwydweithiau cyfnewid yr Oes Efydd yn Ewrop nag a gydnabuwyd o'r blaen.
Mae'r prosiect £200,000 yn cyfuno dadansoddiadau isotop aml-raddfa blaengar ag adnabod rhywogaethau o weddillion sŵarchaeolegol i ddeall y perthnasoedd ymhlith hunaniaethau elitaidd datblygol, defnydd o'r dirwedd, a chydgrynhoi pŵer y diwylliant Nuragig.
Yn gyntaf, mae'r prosiect yn archwilio gweddillion anifeiliaid cynhanesyddol i edrych am dystiolaeth o ymddygiadau sy'n amrywio o wledda a hela i gasglu teyrngedau a dwysáu’r economi anifeiliaid. Yna bydd sbesimenau dethol yn cael dadansoddiad aml-isotop i nodi tystiolaeth o ddwysáu economaidd ac ehangu rheolaeth diriogaethol.
Bydd y canlyniadau cyfun yn llywio naratif newydd o ddatblygiad cymdeithasol mewnol y diwylliant Nuragig.
Mae astudiaethau blaenorol yn aml wedi trin yr economi anifeiliaid Nuragig fel cyfanwaith anwahaniaethol, a phrin fu'r ymdrechion i ddeall ei deinameg gymdeithasol fewnol yn ystod datblygiad y diwylliant dros chwe chanrif.
Caiff y canfyddiadau eu lledaenu yn y gymuned archeolegol a chânt eu rhannu'n gyhoeddus drwy ddiweddariadau blog ac ar Twitter ac Instagram (zanba_project1).
Un sy'n ymwneud â'r prosiect fel Cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol Marie Sklodowska-Curie yw Dr Emily Holt, dan oruchwyliaeth Dr Richard Madgwick.
Mae Dr Holt yn sŵarchaeolegydd sy'n arbenigo mewn archeoleg amgylcheddol gyda diddordebau ymchwil yn y modd y gellir defnyddio gweddillion archeolegol anifeiliaid i ddeall materion allweddol fel anghydraddoldeb cymdeithasol, defnydd o adnoddau a newid amgylcheddol. Yn y gorffennol, mae hi wedi gweithio ym Mhrifysgol Miami yn Ohio, y Museum national d'Histoire naturelle ym Mharis, Prifysgol Buffalo a Choleg Oberlin.
Mae prosiect ZANBA wedi cael arian gan raglen ymchwil ac arloesedd Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd o dan gytundeb grant rhif 839517.