Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi’i chymeradwyo gan Fwrdd Ymweld Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA)
26 Gorffennaf 2021
Fe wnaeth Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) ymweld ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru yr wythnos diwethaf i gynnal ei hasesiad pum mlynedd o raglenni achrededig yr Ysgol.
Archwiliodd Bwrdd Ymweld RIBA dair o raglenni'r Ysgol; BSc Astudiaethau Pensaernïol, Meistr mewn Pensaernïaeth (MArch), a Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Proffesiynol (DPP, Rhan 3) ac o ganlyniad cawson nhw eu dilysu am bum mlynedd arall yn ddiamod.
Fe wnaeth y Bwrdd gymeradwyo’r Ysgol o ran:
- Rhaglen Rhan 3 ar gyfer ei synthesis o drylwyredd ac ymarfer academaidd;
- ethos cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol, sy'n flaengar ac yn eang ei agwedd ac y mae tystiolaeth ohono drwyddi draw; a
- natur golegol ac ymrwymiad yr holl staff i brofiad y myfyrwyr.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Chris Tweed: “Rwy’n ddyledus iawn i’m cydweithwyr a ddangosodd cymaint o frwdfrydedd, ac a weithiodd yn ddiwyd ac yn llawn egni wrth baratoi ar gyfer yr ymweliad. Mae'r dilysiad wrth gwrs yn cydnabod penllanw blynyddoedd lawer o waith caled nid yn unig gan staff Gwasanaethau Proffesiynol ac academaidd yr Ysgol, ond gan yr holl diwtoriaid allanol sy'n ein cefnogi i ddarparu addysg a phrofiad o'r radd flaenaf i'n myfyrwyr.”
Canmolwyd y DPP yn arbennig gan y Bwrdd Ymweld. Mae’r rhaglen Rhan 3 hon wedi’i chynllunio i’w chwblhau tra bod ei myfyrwyr yn gweithio ac mae’n eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o'r agweddau cyfreithiol ac economaidd ar ymarfer pensaernïol a chaffael gwaith adeiladu, yn ogystal â’r sgiliau perthnasol sy'n angenrheidiol ar gyfer ymarfer yn effeithiol wrth ddechrau ar yrfa ym maes pensaernïaeth.
Dywedodd Arweinydd Rhaglen y DPP, yr Athro Sarah Lupton:
“Rydym wedi gweithio'n galed i ddatblygu a rhedeg y rhaglen hon i sicrhau'r cydbwysedd gorau posibl o theori ac egwyddorion sylfaenol, a sut y maen nhw’n cael eu cymhwyso i’r gwaith a phrosiectau. Rwy'n falch iawn felly bod y cyflawniad hwn wedi'i gydnabod gan Fwrdd Ymweld RIBA.’
I ddarganfod mwy am y rhaglenni astudio sydd ar gael yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ewch i wefan yr Ysgol.