Harneisio'r cefnforoedd i greu ynni
23 Gorffennaf 2021
Bydd prosiect ymchwil arloesol gwerth £10m yn ymchwilio i botensial harneisio ynni gwynt ac adnewyddadwy morol alltraeth i gynhyrchu tanwydd hydrogen ac amonia di-garbon.
Bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cymryd rhan yn y prosiect amlddisgyblaethol o’r enw Ocean-REFuel: Bydd Prosiect Tanwydd Ynni Adnewyddadwy yn y Cefnforoedd yn ymchwilio i ffyrdd o droi ynni'r cefnforoedd yn danwydd i'w ddefnyddio ym maes gwresogi, storio ynni a dulliau cludo sy’n anodd eu datgarboneiddio.
Mae'r consortiwm, dan arweiniad Prifysgol Strathclyde, hefyd yn cynnwys timau ymchwil sy'n arwain y byd o Brifysgol Nottingham, Prifysgol Newcastle a Choleg Imperial, Llundain. Ariennir y prosiect gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol, byd diwydiant a'r prifysgolion sy’n bartneriaid, sydd hefyd wedi addo naw ysgoloriaeth PhD gysylltiedig.
Mae gan lywodraeth y DU yr uchelgais i wynt alltraeth gynhyrchu mwy na digon o drydan i bweru pob cartref yn y wlad erbyn 2030, yn seiliedig ar y defnydd cyfredol o drydan, ond ceirllawer iawn o botensial o hyd yn ynni’r cefnforoedd na fydd byth modd i’r rhwydwaith trydan ei ddefnyddio'n llawn.
Mae trydan adnewyddadwy wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf ond ni ellir dweud yr un peth yn achos deunyddiau ynni eraill yn enwedig o ran gwres, cerbydau cludo trwm a hedfanaeth.
Mae angen datblygu technolegau a systemau newydd i osgoi canlyniadau gwaethaf newidiadau yn yr hinsawdd a bydd prosiect Ocean-REFuel yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r heriau sy’n gysylltiedig â storio ynni, gwres adnewyddadwy a datgarboneiddio cludiant ar y ffyrdd, ar y môr ac yn yr awyr.
Dyma a ddywedodd Dr Agustin Valera-Medina, o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i arddangos amrywiaeth fawr o dechnolegau fydd yn datgarboneiddio ein heconomi. Bydd yr ymchwil uchelgeisiol yn rhoi technolegau newydd ar waith er mwyn adfer ynni yn effeithlon o leoliadau alltraeth, a bydd yn gosod y sylfeini i ddangos y gellir defnyddio amonia, sef moleciwl hanfodol i'n cynlluniau datblygu, yn effeithlon fel fector hydrogen i ostwng allyriadau carbon er mwyn mynd i'r afael â newidiadau yn yr hinsawdd. ”.
Dim ond pan fydd y gwynt yn chwythu y bydd technolegau ynni adnewyddadwy megis y gwynt yn cynhyrchu ynni a bydd y prosiect yn ymchwilio i ddatrysiadau storio, megis hydrogen ac amonia, a all helpu i reoli cyflenwad sy’n ysbeidiol.
Yn ddiweddar mae amonia, sef cyfansoddyn a ddefnyddir yn aml yn gwrtaith, wedi dangos llawer o addewid fel tanwydd gan bod modd ei losgi mewn peiriant neu ei ddefnyddio mewn cell danwydd i gynhyrchu trydan.
Nid yw amonia yn cynhyrchu carbon deuocsid pan gaiff ei losgi, gellir ei greu gan ddefnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy ac mae modd ei storio'n hawdd fel hylif swmp.
Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn arwain y ffordd o ran defnyddio amonia fel ffynhonnell ynni di-garbon, a hynny wedi iddyn nhw greu eisoes arddangoswr cyntaf y byd lle mae amonia yn cael ei greu gan ddefnyddio trydan adnewyddadwy, ei storio mewn tanc, ac yna’n cael ei ddefnyddio i greu hyd yn oed rhagor o drydan.
Yn ogystal â rhyddhau ynni o amonia mewn peiriant tanio mewnol neu beiriant tyrbin nwy, gall y cyfansoddyn hefyd gael ei ‘gracio’ yn ôl i fod yn nitrogen a hydrogen, a thrwy hynny ryddhau hydrogen fel ffynhonnell danwydd arall.
Tanwydd glân yw hydrogen sydd, o'i losgi mewn cell danwydd, ond yn cynhyrchu dŵr, ac mae hyn yn ei wneud yn opsiwn tanwydd deniadol i’w ddefnyddio ym maes cludiant a chynhyrchu trydan, megis mewn ceir, tai a phŵer cludadwy.
Bydd y cydweithrediad hwn, a fydd yn para am bum mlynedd ac sy'n cynnwys 28 o bartneriaid diwydiannol, gan gynnwys BP, Scottish Power, y Grid Cenedlaethol ac ENI, sef cyn-gwmni olew cenedlaethol yr Eidal, hefyd yn creu Glasbrint ar gyfer y cyfleuster cynhyrchu integredig cyntaf ym maes Tanwydd Adnewyddadwy yn y Cefnforoedd.