Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabyddiaeth i bapur gan Wobr Prawf Amser Diogelwch a Phreifatrwydd IEEE

22 Gorffennaf 2021

Mae papur gan Dr George Theodorakopoulos, a chydweithwyr, wedi’i ddewis ar gyfer Gwobr Prawf Amser Diogelwch a Phreifatrwydd IEEE yn Symposiwm IEEE. Cynhaliwyd y symposiwm Diogelwch a Phreifatrwydd hwn a gydnabyddir yn rhyngwladol gan IEEE ym mis Mai. Cafodd y papur, “Quantifying Location Privacy” ei gyd-ysgrifennu gyda chydweithwyr, Dr Reza Shokri o Brifysgol Genedlaethol Singapore, Jean-Yves Le Boudec a Jean Pierre Hubaux o Sefydliad Technoleg Ffederal y Swistir (EPFL) yn y Swistir.

“Un o’r problemau mawr ym maes preifatrwydd data yw meintioli’r preifatrwydd a gollir; cael rhyw fath o ddull mesur sy'n eich galluogi i asesu faint o wybodaeth a ddatgelir mewn system; a chael algorithm prawf preifatrwydd sy’n gallu cyflawni’r mesuriad hwn mewn ffordd gyson ar draws ystod eang o systemau,” meddai Dr Reza Shokri.

Aeth y tîm ati i ddod o hyd i ffordd o ddatrys y broblem hon ar gyfer data lleoliad sef y data sensitif sy'n gysylltiedig â'ch hunaniaeth ac sy’n gallu arwain at ddatgelu gwybodaeth am eich dewisiadau a'ch cylchoedd cymdeithasol. Daeth i’r amlwg iddynt bod amrywiaeth o ddulliau o ddatrys preifatrwydd lleoliad a chynigiwyd nifer o fetrigau ar gyfer eu gwerthuso. Un o brif gymelliannau'r ymchwil oedd cymharu'r holl fecanweithiau preifatrwydd hyn.

“Trwy edrych ar amcanion ymosodwyr gwahanol trwy un lens, drwy ddull Bayesaidd, roeddem yn gallu eu gosod yn eu cyd-destun a sylwi ar y diffygion yr oedd gan rai ohonynt. Yn bwysicach fyth, roeddem yn gallu llunio fframwaith y gellir ei ddefnyddio ar gyfer dylunio a gwerthuso mecanweithiau newydd,” meddai Dr Theodorakopoulos.

Mae'r tîm yn credu bod y gwaith maen nhw wedi'i wneud wedi cael cryn ddylanwad ar gyfeiriad ymchwil yn y maes hwn, a’i fod wedi helpu i lunio dulliau mwy systematig ar gyfer amddiffyn preifatrwydd lleoliad. Mae'r tîm wedi gweld bod effaith y dull hwn hefyd wedi mynd y tu hwnt i feintioli preifatrwydd “lleoliad”, a’i fod wedi helpu'r dadansoddiad risg ar gyfer data sensitif dimensiwn uchel arall fel data genomig a meddygol.

Rhannu’r stori hon