Astudiaeth yn tynnu sylw at 'gyfnod 30 diwrnod hanfodol' i gleifion mewnol mewn ysbytai gael pigiad COVID-19
23 Gorffennaf 2021
Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw wedi tynnu sylw at 'gyfnod 30 diwrnod hanfodol' i gleifion mewnol mewn ysbytai gael eu brechu yn erbyn COVID-19 er mwyn helpu i leihau eu risg o farw.
Archwiliodd tîm dan arweiniad Prifysgol Caerdydd 2,508 o gleifion mewn 18 o ysbytai yn ystod ton gyntaf y pandemig i asesu effaith cael eu heintio â COVID-19 yn yr ysbyty ar eu risg o farw.
Gwelwyd bod y risg o farw o COVID-19 yn llawer mwy ymhlith cleifion sy’n ei ddal pan fyddant yn yr ysbyty’n barod nag ydyw ymhlith y rhai sy’n ei ddal yn y gymuned, sy’n adlewyrchu natur fregus yr unigolion hyn.
Mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at gyfnod mis o hyd ar gyfer brechu rhwng derbyn i’r ysbyty a dal haint SARS-CoV-2. Mae’r astudiaeth, y fwyaf o’i math hyd yma, wedi’i chyhoeddi heddiw yng nghyfnodolyn Thorax BMJ.
Cafodd y canfyddiadau cynnar eu rhannu â Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr eleni, a gwnaethant helpu i newid polisi brechu Cymru i roi blaenoriaeth i rai o’r cleifion mwyaf agored i niwed yn ystod yr ail don. Cyn hyn, y polisi oedd peidio â brechu cleifion mewnol mewn ysbytai rhag COVID-19 os cawsant ganlyniad negyddol wrth eu profi.
Dywedodd Dr Mark Ponsford, gwyddonydd-glinigwr o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a phrif awdur y papur: “Yn ystod ton gyntaf y pandemig, yr hyn a wnaeth fy nharo i’n gyntaf oedd y gyfradd farwolaethau uchel ymhlith unigolion a ddaliodd COVID-19, yn ôl pob tebyg, yn ystod eu hamser yn yr ysbyty. Yr ail beth a wnaeth fy nharo oedd eu tebygrwydd agos i breswylwyr cartrefi gofal a nyrsio.
“Gwelsom hefyd fod mwy na hanner y cleifion wedi bod yn yr ysbyty ers o leiaf 30 diwrnod cyn iddynt ddal COVID-19, sy’n amlygu cyfnod ar gyfer brechu neu gymryd camau eraill i reoli’r haint a allai helpu i leihau’r risg hon, yn ein barn ni.”
Gwnaeth cyd-awdur yr astudiaeth, yr Athro Stephen Jolles, imiwnolegydd ymgynghorol ac arweinydd Canolfan Imiwnoddiffygiant Cymru, gyflwyno canfyddiadau’r ymchwil gynnar i Lywodraeth Cymru drwy’r Grŵp Cynghori Technegol a'r Grŵp Cynghori a Blaenoriaethu Clinigol ar gyfer Brechu ym mis Ionawr a mis Chwefror 2021. Roedd y canfyddiadau hyn yn rhan o'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd i lunio polisi Llywodraeth Cymru i frechu mwy o gleifion mewnol.
Mae’r gwaith dadansoddi, a wnaed gan arbenigwyr mewn meddygaeth anadlol, imiwnoleg ac iechyd y cyhoedd o bob rhan o Gymru, yn datgelu hefyd y gyfradd farwolaethau uchel ymhlith y rhai sy’n dal COVID-19 yn yr ysbyty.
Mae’n awgrymu bod y risg o farw o COVID-19 a ddaliwyd yn yr ysbyty’n fwy na'r hyn a awgrymwyd o'r blaen mewn astudiaethau eraill a gyhoeddwyd.
Dywedodd yr Athro Ian Humphreys sy’n arwain ymchwil ym maes heintiau yn Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd: “Mae’n fwyfwy amlwg y gall trosglwyddo COVID-19 yn yr ysbyty arwain at ganlyniadau niweidiol. Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd deall pa mor effeithiol yw brechu grwpiau o gleifion sydd fwy agored i niwed. Rydym bellach yn rhoi sylw i’r cwestiwn hwn.”
Dywedodd yr uwch-awdur, Dr Simon Barry, meddyg anadlol ymgynghorol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Mae angen i ni gofio bod y rhai sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty ar eu mwyaf bregus. Mae angen i ni hefyd barhau i ystyried ffyrdd o helpu i leihau’r risg o ddal heintiau yn yr ysbyty’n gyffredinol.”
Roedd yr ymchwil yn cynnwys cleifion o ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Fe'i hariannwyd gan Lywodraeth Cymru, UKRI/NIHR drwy Gonsortiwm Imiwnoleg y DU ar gyfer y Coronafeirws, Prifysgol Caerdydd a Chymdeithas y Patholegwyr Clinigol.
Dywedodd yr ymchwilwyr fod angen gwneud rhagor o waith i weld a oedd grwpiau o gleifion a allai fod mewn perygl yn arbennig o ddal COVID-19 yn yr ysbyty a deall pa mor effeithiol y mae brechu i dorri'r cysylltiad rhwng haint a marwolaeth yn yr ysbyty.
Dywedodd Rhys Jefferies o'r Grŵp Gweithredu ar Iechyd Anadlol a Phrifysgol Abertawe, a gydlynodd y gwaith o gasglu’r data: “Mae hyn wir yn dangos gwerth dull gweithredu cenedlaethol yng Nghymru, sy’n ein galluogi i gasglu data’n gyflym o bob rhan o’r wlad er mwyn deall y broblem hon a helpu i fynd i’r afael â hi. Rydym yn parhau i ymateb yn gyflym drwy gefnogi’r GIG a Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig COVID-19.”