Ailymweld â Hyfforddiant Eang
22 Gorffennaf 2021
Gwnaeth ymchwilwyr CUREMeDE werthusiad tair blynedd o’r rhaglen hyfforddiant eang (BBT) yn 2017 (Bullock et al 2018, 2017; Muddiman et al 2019, 2016a, 2016b). Eleni, comisiynodd Addysg Iechyd Lloegr astudiaeth ddilynol gyda hyfforddeion gwreiddiol BBT i nodi cyrchfannau gyrfa tymor hwy’r meddygon gymerodd rhan yn y rhaglen. Roeddent am wybod a oedd y rhaglen BBT wedi bod o fudd iddynt neu a oeddent o dan anfantais o ran datblygiad gyrfaol. Bydd canfyddiadau'r astudiaeth hon yn llywio datblygiadau hyfforddi yn y dyfodol.
Rydym wedi cysylltu â'r meddygon a gymerodd ran yn yr ymchwil wreiddiol ac wedi cynnal cyfweliadau cwmpasu gyda rhai o'r gwirfoddolwyr. Mae'r ymatebion wedi rhagori ar ein disgwyliadau ac mae'r cyfranogwyr wedi bod yn barod i siarad ac yn hael gyda'u hamser. Rydym wedi creu arolwg ac yn y broses o gasglu barn y garfan ehangach a dadansoddi ymatebion. Bydd yr adroddiad ar gael yn ddiweddarach eleni.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen prosiect BBT.