Ymgyrch newydd yn tynnu sylw at yr angen i geisio cymorth ar gyfer symptomau canser sy’n “amhendant ond yn peri pryder”
22 Gorffennaf 2021
Bydd ‘hyrwyddwyr ymwybyddiaeth o ganser’ yn annog pobl i geisio cymorth meddygol ar gyfer symptomau canser “amhendant” yn rhan o ymgyrch newydd dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ac sydd wedi’i ariannu gan Ymchwil Canser Cymru.
Bydd yr ymgyrch chwe mis yn targedu rhannau o dde Cymru lle mae cyfradd y bobl sy’n goroesi canser yn wael ac yn tynnu sylw at chwech o symptomau posibl canser, gan gynnwys colli pwysau heb esboniad, colli archwaeth, cyfog, blinder parhaus, poen yn yr abdomen a “pheidio â theimlo fel chi eich hun”.
Mae’r fenter yn ceisio annog oedolion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gysylltu â'u meddyg teulu os ydynt wedi bod â’r symptomau hyn ers o leiaf dair wythnos.
Dywedodd yr Athro Kate Brain, Seicolegydd Iechyd o Brifysgol Caerdydd, ei bod yn hanfodol ceisio cymorth yn gynnar ar gyfer symptomau canser sy’n “amhendant ond yn peri pryder”.
Yn rhan o'r ymgyrch, bydd ‘hyrwyddwyr ymwybyddiaeth o ganser’ a hyfforddwyd yn codi ymwybyddiaeth o symptomau canser amhendant ac yn helpu pobl i geisio cymorth gan eu meddyg teulu. Byddant yn ymweld ag archfarchnadoedd, canolfannau cymunedol, meddygfeydd a fferyllfeydd i gynnig cymorth a chefnogaeth.
Bydd yr ymgyrch, sy’n dechrau’r mis hwn, hefyd yn hyrwyddo’r neges bod dod o hyd i ganser yn gynnar yn achub bywydau, a hynny ar fysiau, ar Facebook ac ar y radio lleol.
Ochr yn ochr â’r ymgyrch, bydd ymchwilwyr o'r Brifysgol yn asesu a yw wedi’i chynnal yn effeithiol ac a oedd pobl yng nghymunedau lleol ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ymwybodol ohoni.
Byddant hefyd yn ymchwilio i farn y cyhoedd am ymgyrch TIC-TOC (Targeted Intensive Community-based campaign To Optimise Cancer awareness), a bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i wella gwasanaethau canser yng Nghymru a'r DU.
Dywedodd y prif ymchwilydd, yr Athro Brain, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae canlyniadau canser yn tueddu i fod yn waeth mewn ardaloedd dan anfantais economaidd. Gall rhwystrau fel diffyg ymwybyddiaeth o symptomau amhendant, ofn cael diagnosis o ganser neu ofn cael triniaeth am ganser annog pobl i beidio â cheisio cymorth yn gynnar. Felly, gall fod angen cymorth ac anogaeth ychwanegol ar bobl yn yr ardaloedd hyn i geisio cymorth ar gyfer unrhyw symptomau sy’n peri pryder.
“Rydym wedi datblygu ymgyrch sy’n ceisio galluogi pobl i geisio cymorth yn gynnar ar gyfer symptomau canser, yn enwedig y symptomau hynny sydd i’w gweld yn rhai amhendant ond yn dal i beri pryder, fel teimlo'n flinedig drwy'r amser neu golli pwysau heb reswm.
“Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod â symptomau anarferol neu barhaus, byddwn yn eich annog i gysylltu â'ch meddyg teulu cyn gynted â phosibl. Gan amlaf, nid canser fydd achos y symptomau ond, os mai canser yw’r diagnosis, mae dod o hyd iddo’n gynnar yn rhoi'r cyfle gorau i’w drin yn llwyddiannus.”
Dywedodd Ann Tate, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru: “Rydyn ni wedi dod yn dra ymwybodol y gall ymgyrchoedd traddodiadol o godi ymwybyddiaeth o ganser fethu’r grŵp targed yn aml, ac mae unrhyw lwyddiant cychwynnol sydd ganddyn nhw yn tueddu i fod yn fyrhoedlog ac yn gyfyngedig ei natur. Rydym wedi ein cyffroi gan ddull newydd astudiaeth TIC-TOC, gan ei fod yn grymuso'r cymunedau i gadw golwg ar ei gilydd mewn dull mwy cyfannol. Mae’r dull hwn yn dod â phobl a gofal sylfaenol ac eilaidd ynghyd mewn dull mwy cydlynol.
“Gobeithiwn y bydd canlyniadau’r astudiaeth hon yn cynnig fframwaith newydd a mwy ystyrlon fydd yn sail ar gyfer pob ymgyrch sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth canser yn y dyfodol. Yn anad dim, bydd yn arbed bywydau trwy ddiagnosis cynharach yn y broses.”
Mae’r astudiaeth yn cael ei chynnal ar y cyd gan Ganolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd, sy’n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac Is-adran Meddygaeth Boblogaeth Prifysgol Caerdydd.