Ewch i’r prif gynnwys

Sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i elwa ar gyllid o £50m

22 Gorffennaf 2021

Mae consortiwm o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd wedi ennill cais gwerth £50m i ddatblygu clwstwr fydd yn arwain y byd ar gyfer arloesedd yn y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Gan ddod â 24 o sefydliadau o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ynghyd, mae media.cymru yn cynnwys partneriaid sy'n gweithio ym meysydd addysg, darlledu, technoleg, cynhyrchu'r cyfryngau ac arweinyddiaeth leol i yrru twf economaidd cynhwysol, cynaliadwy yn ogystal â chynhyrchu £236m yn ychwanegol mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) erbyn 2026.

Mae’r rhaglen £50m yn cael ei chyllido drwy £22m gan Gronfa Cryfder mewn Lleoedd Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), £3m gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, £2m gan Lywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol a £23m o arian cyfatebol gan bartneriaid y diwydiant a’r Brifysgol.

Ers 2006, mae cyfradd twf sector y cyfryngau yn y rhanbarth wedi bod ymhlith yr uchaf yn y DU. Mae wedi denu un o bob wyth o’r holl swyddi newydd ym maes ffilm/teledu yn y DU ac mae Sex Education, His Dark Materials, Doctor Who a Dream Horse ymhlith y llwyddiannau byd-eang sydd wedi’u cynhyrchu yma.

Gan ymateb i'r datblygiadau ym maes cynhyrchu o bell a rhithwir yn ystod pandemig COVID-19, bydd media.cymru yn buddsoddi yn seilwaith digidol y rhanbarth, gan ganolbwyntio ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg, cynyddu gallu busnesau bach i arloesi a mynd i'r afael ag anghenion sgiliau.

Mae Prifysgol Caerdydd eisoes wedi helpu i sefydlu sylfaen ffyniannus ar gyfer Ymchwil a Datblygu yn arwain Clwstwr, menter sy'n dod ag ymchwil academaidd a diwydiant ynghyd i yrru arloesedd yn y sector creadigol yn ne Cymru. Bydd y rhaglen ddiweddaraf hon fydd yn para dros gyfnod o bum mlynedd ac sydd i fod i ddechrau yn 2022, yn rhoi cefnogaeth Ymchwil a Datblygu pellach i fusnesau. Bydd yn eu galluogi i ddod o hyd i gyfleoedd masnachol gyda chynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd.

Dywedodd yr Athro Justin Lewis o media.cymru a Chyfarwyddwr Clwstwr yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd: “Ar ôl effaith ddinistriol COVID-19, nid yw'r angen am arloesedd digidol yn y sector creadigol erioed wedi bod mor hanfodol. Felly, rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael yr arian hwn gan y llywodraeth drwy gronfa flaenllaw Cryfder mewn Lleoedd Ymchwil ac Arloesedd y DU.

“Mae’n adeiladu ar lwyddiant cynyddol sector y cyfryngau yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi cyfle inni adeiladu ar nodau rhaglen Clwstwr, sydd eisoes wedi helpu llawer o fusnesau a gweithwyr llawrydd yn yr ardal i dyfu a datblygu...”

“Nod rhaglen media.cymru yw gwneud Prifddinas-Ranbarth Prifddinas Caerdydd yn ganolbwynt byd-eang o ran arloesedd a chynhyrchu yn y cyfryngau. Bydd yn rhoi cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a busnesau newydd sy'n gweithio yn y maes cyffrous hwn gydweithio ac arloesi, gan adeiladu ar ran annatod o'r economi. Ein nod yw datblygu sector cyfryngau o'r radd flaenaf sy’n ysbrydoli.”

Yr Athro Justin Lewis Professor of Communication

Bydd cyfres o heriau a arweinir gan ddiwydiant i ymchwilio iddynt, gan gynnwys cynaliadwyedd, cynhyrchu’n ddwyieithog, amrywiaeth a chynhwysiant, twristiaeth a thechnoleg yn gosod sector cyfryngau'r rhanbarth fel mainc arbrofi ar gyfer cynnwys, dulliau a fformatau newydd.

Dywedodd Nia Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Boom Cymru ac aelod o Gonsortiwm media.cymru: “Rwy’n falch iawn o glywed bod media.cymru wedi cael yr arian hwn oherwydd bydd yn caniatáu inni adeiladu ar y sylfeini cryf a osodwyd gan y rhai sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, a bydd yn ein harwain yn hyderus i gam nesaf y twf. Gyda’r arian hwn, gallwn fuddsoddi yn nyfodol cynhyrchu ac arloesedd ym maes y cyfryngau. Bydd hyn yn gwarantu twf economaidd cynaliadwy er budd cymdeithas, diwylliant a’r gweithle ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chymru gyfan...”

“Mae Boom a’n partneriaid prosiect, Rondo Media, yn angerddol am ein cyfrifoldebau i barhau i adeiladu ar gryfder a rhagoriaeth sector cynhyrchu cynhenid Cymru. Maent yn gwbl ymroddedig i weithio ar lawr gwlad i wella cynrychiolaeth economaidd-gymdeithasol, o flaen a thu ôl i'r camera, trwy chwalu'r hyn sy’n rhwystro pobl o bob cymuned a chefndir rhag ymgysylltu.”

Nia Thomas Rheolwr Gyfarwyddwr Boom Cymru

“Mae’n hanfodol bod cyfleoedd yn y gwaith yn cael eu cynnig ar bob lefel i leisiau beiddgar, newydd ac ysbrydoledig fel ein bod yn creu cynnwys arloesol, cynrychioliadol ac o’r radd flaenaf er mwyn iddo gael ei ddefnyddio, ei werthfawrogi a’i ganmol yn fyd-eang.”

Croesawyd y cyhoeddiad gan yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae ein campws yn y ddinas, sy’n ganolbwynt i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, wedi bod yn gefndir i lawer o’r cynyrchiadau eiconig a grëwyd yma yng Nghymru, o Sherlock i His Dark Materials.

“Dros y cyfnod hwn, mae wedi bod yn hynod ddiddorol gweld y sector yn mynd o nerth i nerth. Mae llawer o hyn wedi deillio o gydweithio rhwng gweithwyr creadigol proffesiynol ac ymarferwyr ym meysydd diwydiant, y byd academaidd ac arweinyddiaeth leol. A byth yn fwy felly na thros gyfnod y pandemig...”

“Mae’n gyffrous gweld canlyniadau’r rhaglenni arloesi a buddsoddi y mae media.cymru wedi’u cynllunio gydag arian Cryfder mewn Lleoedd wrth i ni gynllunio adferiad cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy a chynhwysol ar ôl COVID-19.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru: “Mae’r cyhoeddiad heddiw yn newyddion da i gynulleidfaoedd yng Nghymru ac economi Cymru. Mae’n gyfle i wthio ffiniau arloesedd yn rhai o'r sectorau economaidd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU...”

“Bydd y fargen newydd yn helpu i ddod â’r sector creadigol hyd yn oed yn nes at ei gilydd, gan yrru cynnydd economaidd a diwylliannol mewn meysydd fel ymchwil ac arloesedd yn ogystal â fformatau newydd. Mae'r BBC yn falch o fod yn bartner yn y fenter hon ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r consortiwm dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf i wneud y datblygiad hwn yn llwyddiant.”

Rhuanedd Richards Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru

Ychwanegodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: “Rydym yn falch iawn bod UKRI wedi dyfarnu swm sylweddol i gonsortiwm Cryfder mewn Lleoedd media.cymru...”

“Wrth i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru fynd o nerth i nerth, mae’r cyllid hwn yn hanfodol i roi help i fusnesau creadigol brofi eu hunain yn y dyfodol gyda’r technegau cynhyrchu diweddaraf. Bydd hefyd yn eu helpu i neilltuo amser gwerthfawr i ymchwilio a datblygu cynnwys a phlatfformau cyflwyno'r dyfodol.”

Dawn Bowden AS Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i gynhyrchu pecyn cefnogaeth gwerth £2m gan ein hadrannau sgiliau, rhanbarthol ac isadeiledd a gydlynir gan Gymru Greadigol. Bydd y gwaith a gaiff ei wneud yn gynaliadwy, yn unol â'n hymrwymiadau amgylcheddol ac yn cefnogi gweithlu amrywiol a chynhwysol."

Dyma aelodau o Gonsortiwm media.cymru: Alacrity Foundation, BBC, Boom Cymru, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cardiff Productions, Prifysgol Caerdydd, Channel 4, Dragon DI, Ffilm Cymru Wales, Gorilla TV, Great Point Media, Nimble Dragon, Object Matrix, Rescape Innovation, Rondo Media, S4C, Shwsh, TownSq, Prifysgol De Cymru, Unquiet Media, Wales Interactive a Llywodraeth Cymru.