Gwyddonwyr yn anelu am dechnoleg newydd ym maes catalyddion i helpu i gyrraedd sero-net
22 Gorffennaf 2021
Mae bp a JM yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Manceinion yn rhan o brosiect gwerth £9m sy’n ceisio troi CO2 a gwastraff yn danwydd ac yn gynnyrch glân a chynaliadwy.
Mae partneriaeth sy'n cynnwys dwy brifysgol flaenllaw ym Mhrydain, sef Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Manceinion, ynghyd â bp a Johnson Matthey (JM), wedi cael ei lansio i chwilio am ffyrdd o droi carbon deuocsid, gwastraff a biomas cynaliadwy’n danwydd a chynnyrch y gellir eu defnyddio ar draws y sectorau ynni a thrafnidiaeth.
Mae Prifysgol Caerdydd, canolfan flaenllaw yn rhyngwladol ym maes ymchwil catalysis, yn arwain y prosiect tra bydd Prifysgol Manceinion yn cynnig arbenigedd ym maes gwyddor deunyddiau, dulliau nodweddu a chatalysis. Yn ymuno â nhw mae bp, cwmni ynni integredig, a JM, arweinydd byd-eang ym maes technolegau cynaliadwy, a bydd y bartneriaeth yn neilltuo'r pum mlynedd nesaf i chwilio am dechnoleg newydd ym maes catalyddion sydd ei hangen i gyrraedd sero-net.
Mae catalyddion yn helpu i weithgynhyrchu tua 80% o'r deunyddiau sydd eu hangen mewn bywyd modern, sy’n golygu eu bod yn rhan annatod o brosesau gweithgynhyrchu. O ganlyniad, mae hyd at 35% o gynnyrch domestig gros y byd yn dibynnu ar gatalysis. Er mwyn cyrraedd sero-net, bydd yn hollbwysig datblygu catalyddion newydd ar gyfer prosesau cynaliadwy, a dyna fydd prif amcan y bartneriaeth.
Dywedodd yr Athro Duncan Wass, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd: “Mae'r catalyddion rydyn ni'n eu defnyddio heddiw wedi cael eu mireinio dros ddegawdau i weithio gydag adnoddau tanwydd ffosil penodol. Wrth inni symud i ddyfodol sero-net, mwy cynaliadwy a charbon isel, mae angen catalyddion arnon ni a fydd yn troi biomas, gwastraff a charbon deuocsid yn gynnyrch gwerthfawr”.
“Drwy fod yn rhan o’r bartneriaeth hon, byddwn ni’n dod ag ystod eang o arbenigedd ym maes catalysis ynghyd i ddatgelu gwyddoniaeth newydd a chyfrannu at y gwaith i gyrraedd sero-net – yr amcan pwysicaf inni i gyd, efallai”.
Dywedodd Dr Kirsty Salmon, Is-lywydd Biowyddorau a Gwyddorau Ffisegol Uwch bp ym maes ynni carbon isel: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'n partneriaid hirsefydlog Johnson Matthey, Sefydliad Catalysis Caerdydd a Phrifysgol Manceinion yn rhan o’r bartneriaeth hon. Mae gennym ni dîm gwych, sy'n ychwanegu at ein partneriaeth bp-ICAM lwyddiannus, ac rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn gweithio ar draws disgyblaethau gwyddonol i arloesi ym maes technolegau carbon isel newydd er mwyn helpu'r byd i gyrraedd sero-net”.
Ychwanegodd Dr Elizabeth Rowsell, Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Corfforaethol Johnson Matthey: “Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda bp, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Manceinion yn rhan o’r Bartneriaeth Ffyniant hon a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), a fydd yn helpu i greu deunyddiau cynaliadwy, gan arwain at gynnydd mewn cylcholdeb mewn prosesau diwydiannol. Felly, mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd yn llwyr ag ymrwymiadau sero-net y ddau bartner diwydiannol”.
Dywedodd yr Athro Martin Schröder, Is-lywydd a Deon Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Manceinion: “Mae sero-net yn broblem sy’n rhy fawr i un sefydliad fynd i’r afael â hi ar ei ben ei hun, ac mae’n hanfodol bod diwydiannau a’r byd academaidd yn cydweithio â’i gilydd i’w datrys. Mae Prifysgol Manceinion wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r mater hwn yn rhan o'r agenda cyfrifoldeb cymdeithasol ar y cyd â'n partneriaid. Rydyn ni’n gwerthfawrogi'n fawr yr enghreifftiau hyn o ryngweithio fel y dengys ein hymrwymiad a'n llwyddiant yn rhan o Bartneriaeth Ffyniant yr EPSRC. Mae'r rhaglen gydweithredol hon yn elwa ar bartneriaeth hirdymor rhwng Prifysgol Manceinion a bp drwy Ganolfan Ryngwladol Deunyddiau Uwch bp (bp-ICAM)”.
Ariannwyd y prosiect Sustainable Catalysis for Clean Growth ar y cyd yn sgîl £2.68m gan yr EPSRC, rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, a £5.65m gan y cwmnïau a phartneriaid y prifysgolion. Bydd y gwaith, sy’n dechrau ym mis Medi 2021, yn dwyn ynghyd arbenigwyr diwydiannol o bp a JM ac academyddion o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Manceinion yn y tîm rhyngddisgyblaethol hwn.