Ysgol haf rithwir "eithriadol" mewn ymchwil i anhwylderau'r ymennydd yn estyn allan ledled y byd
15 Gorffennaf 2021
Rhwng 5 a 19 Gorffennaf 2021, croesawodd Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol yng Nghaerdydd gynrychiolwyr rhithwir yr 11eg Ysgol Haf Flynyddol mewn Ymchwil i Anhwylderau’r Ymennydd gan Ganolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig.
Bob dydd roedd mwy na 50 o fynychwyr yn ymuno â ni i ddysgu am ymchwil arloesol i anhwylderau’r ymennydd gyda sgyrsiau gan rai o'r ymchwilwyr uchaf eu parch yn eu priod feysydd seiciatreg a niwrowyddoniaeth, gan gynnwys yr Athro Syr Mike Owen.
Er ein bod yn drist colli llawer o elfennau gwych digwyddiad wyneb yn wyneb, roeddem wrth ein boddau fod mwy na hanner ein cynulleidfa yn rhyngwladol, gan ymuno â ni o Awstralia, Gwlad Belg, Ghana, Ciwba, Rwsia a Phacistan, i enwi ond ychydig.
Yn ystod yr wythnos, cynhaliwyd sesiynau ar wneud niwronau o fôn-gelloedd a dilyniannu trosiant uchel, a darparodd yr Athro Neil Harrison daith ar-lein o amgylch Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).
Gwahoddwyd mynychwyr i gymryd rhan mewn gweithdai gyrfa glinigol a gwyddonol, lle cawsant gyfle i ofyn cwestiynau a thrafod llwybrau gyrfa gydag ymchwilwyr clinigol a gwyddonol mwy profiadol.
Adborth
Rydym yn falch ein bod eisoes wedi derbyn llawer o adborth cadarnhaol am yr wythnos.
Disgrifiodd Dr Donncha Mullin ei brofiad:
"Fel seiciatrydd sy'n gweithio'n academaidd ac yn glinigol, gwelais fod ysgol haf Caerdydd yn gydbwysedd rhagorol o'r gwyddorau sylfaenol a chlinigol. Roedd wedi'i drefnu'n rhagorol, gyda phedair sgwrs brysur a llawn gwybodaeth bob bore ac, yn bwysig, amser rhwng pob un i gamu i ffwrdd o'r sgrin a phrosesu'r hyn a oedd newydd ei gyflwyno.
“Roeddwn yn teimlo fy mod wedi cael fy adfywio a fy ysbrydoli ar ôl yr wythnos, sydd, yn dod gennyf innau, yn ganmoliaeth uchel i gynhadledd ar-lein! Mwynheais yn arbennig y sgyrsiau trosolwg ar 'Pam nawr yw'r amser gorau ar gyfer niwrowyddoniaeth mewn seiciatreg' a 'Data mawr a GWAS', yn ogystal â'r sgwrs fwy arbenigol 'Mesur risg ar gyfer clefyd Alzheimer', sy'n bwnc sy'n agos at fy nghalon.
"Roedd hi'n cŵl iawn cael golwg ar offer paratoi samplau a dilyniannu trosiant uchel, yn ogystal â dadansoddi a dehongli data dilyniannu. Roedd yn teimlo fel fy mod yn cael mewnwelediad go iawn i'r hyn sy'n digwydd yn y labordy i gael y DNA o'r sampl gwaed, gwallt neu groen honno i'r ffeiliau electronig y gellir eu lawrlwytho a'u dadansoddi. Argymhellir yn gryf i unrhyw glinigydd neu wyddonydd sydd eisiau cyflwyniad ysgogol ac addysgiadol i fyd cyffrous geneteg seiciatrig."
Dywedodd Aditya Sarode, myfyriwr gwyddoniaeth fferyllol:
"Gwnes i fwynhau'r ysgol rithwir hyfryd a gynigiwyd gan Ganolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig. Rhoddodd wybodaeth fanwl iawn i mi am niwroseiciatreg a geneteg. Roedd hi'n wythnos foddhaus imi glywed gan ymchwilwyr, athrawon, niwrolawfeddygon a phersonél meddygol enwog.
"Byddwn yn argymell yr ysgol haf yn fawr i bawb sy'n awyddus i ymchwilio i niwrowyddoniaeth a geneteg a chael persbectif byw ohonynt. Unwaith eto, roedd yn bwynt yn fy nhaith academaidd lle cyfrannodd ysgol haf yn sylweddol at fy natblygiad academaidd, gan fy arwain at ennill agweddau a oedd yn eithaf newydd a hynod ddiddorol i mi."
Dr Kim Kendall yn siarad â'r mynychwyr am yrfaoedd ymchwil ym maes meddygaeth
“Fe ddysgais gymaint yn ystod yr wythnos hon ac roedd yn brofiad hynod werthfawr. Roedd y pynciau'n ddigon eang y byddai rhywbeth o ddiddordeb i bawb, gydag ystod o siaradwyr clinigol ac anghlinigol. Ymunodd Dr Zaben â ni hyd yn oed, am sgwrs ar anafiadau trawmatig i'r ymennydd yn ystod ei egwyl o niwrolawdriniaeth!
"Roeddwn yn arbennig o gyffrous clywed esboniadau o fethodolegau (gan gynnwys dilyniannu trosiant uchel, golygu genynnau, bio-ddelweddu, a recordiadau araeau aml-electrod) gan eu bod yn tynnu sylw at feysydd y gallwn o bosibl ddod â nhw i'm hymchwil fy hun trwy gydweithrediadau yn y dyfodol. Roedd yr wythnos hefyd yn cynnwys rhai teithiau o amgylch cyfleusterau labordy ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys yr Athro Harrison yn dangos y sganwyr MRI i ni yn CUBRIC (fe wnaethom ddysgu nad yw magnet mwy bob amser yn gwneud delwedd well!) a sut mae tîm yr Athro Harwood yn gwneud niwronau o fôn-gelloedd cleifion ac yn cofnodi ohonynt gydag araeau aml-electrod.
"Yn olaf, prin y gallwn i gredu fy mod i'n cael hyn i gyd am ddim pan wnaethon ni rannu'n ddau weithdy ar wahân ar gyfer mynychwyr clinigol ac anghlinigol brynhawn y trydydd diwrnod. Mynychais y sesiwn anghlinigol, a gynhaliwyd yn rhyfeddol o dda gan Dr Davies. Rhannwyd cyfoeth o wybodaeth a chyngor gyda ni gan Dr Davies am gymrodoriaethau fel llwybr i ddarlithyddiaeth barhaol, ynghyd â chyngor ar sut i arddangos annibyniaeth ar waith eich goruchwyliwr doethurol neu ôl-ddoethurol.
"Fy ngobaith yw y bydd geneteg un diwrnod yn llywio’r broses o atal, diagnosio a thrin afiechydon ac anhwylderau'r ymennydd. Mae dyfodol cyffrous i edrych ymlaen ato, ac mae'n ymddangos i mi y bydd Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd yn chwarae rhan ganolog wrth yrru hyn ymlaen."
Ysgol Haf 2022
Bydd ein hysgol haf nesaf yn cael ei chynnal ddechrau mis Gorffennaf 2022. Bydd y dyddiadau a'r manylion ar sut i wneud cais yn cael eu cwblhau yn ddiweddarach eleni. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, cadwch lygad ar dudalen Ysgol Haf y Cyngor Ymchwil Feddygol ddechrau mis Chwefror i wneud cais.