Mae mwy nag un o bob pump o bobl yn 'llai tebygol o gael prawf sgrinio canser ar ôl y pandemig'
16 Gorffennaf 2021
Mae mwy nag un o bob pump o bobl wedi dweud eu bod yn llai tebygol o gael prawf sgrinio canser nawr na chyn y pandemig, yn ôl canfyddiadau cychwynnol arolwg ledled y DU dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.
Er bod mwyafrif yr ymatebwyr yn gymwys i gael sgrinio serfigol a/ neu goluddyn yn dweud y byddent yn “bendant” yn cymryd rhan yn eu sgrinio nesaf, dywedodd lleiafrif sylweddol y byddent yn “llai tebygol” o fynd i sgrinio nawr.
Dywedodd yr ymchwilwyr fod angen negeseuon clir ar ymgyrchoedd cenedlaethol i annog pobl i ystyried cymryd prawf sgrinio canser.
Mae pandemig COVID-19 wedi tarfu ar wasanaethau sgrinio canser, ac mae rhaglenni sgrinio canser cenedlaethol y DU wedi eu hatal i bob pwrpas rhwng diwedd mis Mawrth a thua mis Mehefin y llynedd. Mae gwahoddiadau arferol bellach yn cael eu hanfon allan - ond mae nifer sylweddol o bobl yn aros am wahoddiadau.
Fel rhan o Astudiaeth Ymddygiad Iechyd a Cheisio Cymorth COVID, cynhaliodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Cancer Research UK astudiaeth ledled y DU i asesu agweddau pobl tuag at sgrinio yn ystod y pandemig.
Mae nodyn briffio polisi ar y canfyddiadau a ryddhawyd heddiw yn datgelu:
- Dywedodd 74% o'r ymatebwyr sy'n gymwys i gael sgrinio serfigol y byddan nhw’n mynd i’w hapwyntiad serfigol nesaf, tra dywedodd 84% o'r ymatebwyr cymwys y byddan nhw’n cymryd prawf sgrinio’r coluddyn;
- Dywedodd lleiafrif sylweddol (30% o'r rhai sy'n gymwys i gael prawf sgrinio serfigol, a 19% o'r rhai sy'n gymwys i gael prawf sgrinio’r coluddyn) eu bod yn llai tebygol o gymryd prawf sgrinio canser nawr na chyn y cyfnodau clo;
- Dywedodd tri chwarter (75%) eu bod yn poeni am oedi yn achos profion ac ymchwiliadau canser, yn ogystal â sgrinio, yn dilyn COVID-19.
Fel rhan o'r astudiaeth, cynhaliwyd cyfweliadau gyda nifer fach o ymatebwyr, a thynnwyd sylw at rwystrau megis ofni dal COVID-19 ac ansicrwydd ynghylch gweithdrefnau pellter cymdeithasol.
Dywedodd yr ymchwilwyr fod angen i’r llywodraeth a’r gwasanaethau iechyd “ystyried yn ofalus” y ffordd orau o beri i’r un nifer o bobl fynd am brofion sgrinio â’r niferoedd cyn y pandemig mor “gyflym â phosibl”. Bydd dadansoddiadau yn y dyfodol yn edrych ar y ffordd y mae ymatebwyr yn ymateb i sgrinio pan fyddan nhw’n derbyn gwahoddiad.
Dyma a ddywedodd y prif ymchwilydd yr Athro Kate Brain, seicolegydd iechyd o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae ein harolwg yn awgrymu bod dirfawr angen negeseuon clir ar ymgyrchoedd a gydlynir yn genedlaethol i roi gwybod i’r cyhoedd y byddan nhw’n derbyn gwahoddiad i brawf sgrinio - ac i’w hannog i ystyried derbyn y gwahoddiad.
“Mae angen inni hefyd barhau i gynnal ymyriadau i leihau’r ffactorau nad yw’n gysylltiedig â COVID sy’n rhwystro pobl rhag cael prawf sgrinio ac i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol bod gwasanaethau sgrinio ar agor yn ddiogel ac egluro beth fydd yn digwydd yn yr apwyntiad i leihau’r risg o COVID-19.
“Yn olaf, mae angen inni hefyd sicrhau bod digon o staff gofal iechyd ar gael i ymdopi ar frys â'r ôl-groniad sgrinio yn ogystal â sicrhau bod y rheiny y mae angen rhagor o brofion diagnostig arnyn nhw yn eu derbyn mewn modd amserol."
Mae'r canlyniadau hyn yn rhan o arolwg ar-lein ledled y DU o 7,543 o oedolion a gynhaliwyd ym mis Awst a mis Medi 2020. Roedd y dadansoddiad hwn yn cynnwys 2,319 o ymatebwyr a oedd yn gymwys i gael prawf sgrinio serfigol a 2,502 a oedd yn gymwys i gael prawf sgrinio'r coluddyn. Roedd 1,003 ohonyn nhw’n gymwys ar gyfer y ddau.
Cyhoeddwyd y canfyddiadau hyn fel fersiwn cyn-argraffu, a bwriad y tîm ymchwil yw cyhoeddi mewn cyfnodolyn wedi’i adolygu gan gymheiriaid eleni.
Mae'r gwaith ymchwil yn cael ei wneud gan Brifysgol Caerdydd a Canser Research UK, ynghyd â Choleg y Brenin, Llundain, Prifysgol Surrey ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ariennir y gwaith ymchwil gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fel rhan o ymateb cyflym Ymchwil ac Arloesedd y DU i COVID-19.