Pobl ag awtistiaeth yn cael trafferth 'mynd yn wyrdd'
14 Gorffennaf 2021
Gall pobl ag awtistiaeth “wynebu rhwystrau” i gymryd camau amgylcheddol cadarnhaol, a gall fod angen rhagor o gymorth arnynt i wneud hynny, yn ôl astudiaeth newydd.
Archwiliodd Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â Phrifysgolion Caerfaddon ac Essex a Choleg y Brenin, Llundain, y cysylltiadau rhwng nodweddion awtistiaeth ac agweddau amgylcheddol yn rhan o astudiaeth o 2,000 o bobl yn UDA a'r DU.
Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn Journal of Environmental Psychology, yn awgrymu bod gan bobl sydd â llawer o nodweddion awtistiaeth agwedd o blaid yr amgylchedd sy’n debyg i weddill cymdeithas – ond eu bod hwyrach yn wynebu rhwystrau i weithredu.
Mae’r awduron yn galw am ragor o ymchwil i’r pwnc a mwy o gymorth i bobl ag awtistiaeth i “sicrhau na fydd neb yn cael ei adael ar ei ôl”.
Mae awtistiaeth yr actifydd Greta Thunberg yn hysbys iawn, ac mae wedi’i defnyddio i egluro – yn ogystal â beirniadu – ei hymgyrchoedd.
Mae hyn wedi hybu’r dyfalu yn y cyfryngau bod nodweddion awtistiaeth yn gysylltiedig ag amgylcheddaeth ond, hyd yma, nid oes ymchwil wedi’i gwneud i brofi hyn.
Dywedodd Dr Lucy Livingston, sy’n gweithio yng Nghanolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn un o gyd-arweinwyr Rhwydwaith Niwroamrywiaeth Niwroddatblygiadol GW4: “Mae ein canfyddiadau’n awgrymu bod pobl ag awtistiaeth yn debygol o boeni am yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd lawn gymaint â phobl nad oes ganddynt awtistiaeth, ond hwyrach eu bod yn ei chael hi’n anodd troi eu hagwedd o blaid yr amgylchedd yn arferion bob dydd. Mae ein hymchwil yn awgrymu bod angen ymagweddu at amgylcheddaeth a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd mewn ffordd lawer mwy cynhwysol.
“Mae’n annhebygol mai dim ond pobl ag awtistiaeth sy’n wynebu rhwystrau i fynd yn wyrdd – mae’n debyg bod unigolion ag anawsterau niwroddatblygiadol ac anawsterau iechyd meddwl eraill, yn ogystal ag anableddau cudd, hefyd yn wynebu’r rhwystrau hyn.
“Wrth symud ymlaen, mae’n rhaid i ni gynnwys yr unigolion hyn yn y sgyrsiau rydym yn eu cael am bolisi amgylcheddol a gwyddor yr hinsawdd er mwyn penderfynu sut y gallwn eu helpu’n fwy i weithredu’n bersonol ar newid yn yr hinsawdd. Os ydym am symud tuag at ddyfodol sero net, mae angen i ni sicrhau nad oes neb mewn cymdeithas yn cael ei adael ar ei ôl.”
Mae'r awduron yn trafod sawl rheswm pam y gallai pobl â llawer o nodweddion awtistiaeth ei chael hi’n anodd mynd yn wyrdd. Mae hyn yn cynnwys heriau synhwyraidd sy'n ei gwneud hi'n anodd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus swnllyd a gorlawn, yn ogystal â phroblemau newid eu deiet er mwyn bwyta llai o gig.
Maent hefyd yn awgrymu y gallai’r cymorth i'r unigolion hyn i’w helpu i fynd yn wyrdd fod yn seicolegol neu’n ariannol neu gynnwys newidiadau mwy strwythurol – er enghraifft, sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn ystyriol o awtistiaeth.