Ewch i’r prif gynnwys

Un Byd, Un Teulu: Myfyriwr o Brifysgol Caerdydd yn y trydydd safle yn rownd derfynol y DU mewn cystadleuaeth hyfedredd Tsieinëeg uchel ei bri

13 Gorffennaf 2021

Ross Goldstone takes third prize at Chinese Bridge competition 2021

Ym mis Mehefin eleni, enillodd y myfyriwr PhD Ross Goldstone, sydd wedi astudio Tsieinëeg gyda Sefydliad Confucius Caerdydd ers 2018, y drydedd wobr a'r 'cystadleuydd mwyaf poblogaidd' yng nghystadleuaeth Pont Tsieinëeg ledled y DU.

Mae’r Bont Tsieinëeg yn gystadleuaeth flynyddol a drefnir gan y Ganolfan Addysg Iaith a Chydweithredu (Hanban yn flaenorol). Mae'n hynod o gystadleuol ac fel dysgwr Mandarin annibynnol, roedd Ross yn wynebu cystadleuaeth gref gan fyfyrwyr sy'n astudio Tsieinëeg fel prif bwnc mewn prifysgolion fel SOAS, Leeds a Manceinion. Meddai

Dr Catherine Chabert, Cyfarwyddwr Gweithredol Sefydliad Confucius Caerdydd: “Mae’r ffaith fod ein hymgeisydd wedi ennill sawl gwobr yn yr ornest iaith fawreddog a chystadleuol hon yn dyst i ansawdd ein darpariaeth iaith ac i’n staff addysgu.” Ross yw'r trydydd unigolyn o Brifysgol Caerdydd i ennill gwobr. Yn 2020, enillodd Celia Bourhis y wobr 'Mwyaf Creadigol' ac yn 2018, cyflwynwyd y wobr 'Cyfranogiad Brwdfrydig' i Marc Darrell.

Dechreuodd Ross ymddiddori mewn dysgu Mandarin ar ôl ymweld â Beijing yn 2017 fel rhan o raglen gyfnewid Erasmus+ Prifysgol Caerdydd. Cyfarfu â’i ddyweddi yno, ac roedd yn dymuno gallu cyfathrebu’n well â’i rhieni. Ers hynny, mae Ross wedi gwella ei sgiliau iaith yn raddol, gan fynychu cyrsiau ochr yn ochr a'i astudiaethau PhD. Ym mis Chwefror 2021, trwy Sefydliad Confucius Caerdydd, dyfarnwyd ysgoloriaeth iddo ym Mhrifysgol Xiamen, a gorffennodd y rhaglen iaith Tsieinëeg semester o hyd ar-lein ychydig cyn y gystadleuaeth.

Gyda Ling a Fan, athrawon yn Sefydliad Confucius Caerdydd yn ei diwtora, treuliodd Ross dros ddau fis yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth. Ceir pum rhan i'r digwyddiad, gan gynnwys sgwrs ar y thema 'Un Byd, Un Teulu', cwis gwybodaeth am Tsieina, perfformiad artistig tri munud o hyd, fideo dau funud wedi'i wneud gan y cystadleuydd ei hun ac araith fyrfyfyr.

Penderfynodd Ross gymryd rhan ar ôl gwylio'r digwyddiad y llynedd. "Roeddwn i'n meddwl y byddai'n garreg filltir i fi gyda'r iaith a doeddwn i wir ddim yn disgwyl gwneud yn dda. Byddai dim ond cymryd rhan yn y gystadleuaeth wedi bod yn gamp!" dywedodd.

Yn ogystal â'r drydedd wobr a'i wobr am fod y 'cystadleuydd mwyaf poblogaidd', cyflwynwyd teitl 'Llysgennad Diwylliant  a Hyrwyddo Twristiaeth Tsieineaidd yn y DU' i Ross hefyd.

Rhannu’r stori hon