Ysgol Busnes Caerdydd yn cadw Siarter y Busnesau Bach
7 Gorffennaf 2021
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ailddatgan ei hymrwymiad i helpu busnesau bach i ffynnu ar ôl y pandemig yng Nghymru.
Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi llwyddo i gadw Siarter y Busnesau Bach, achrediad a ddyfarnwyd gan Gymdeithas Siartredig yr Ysgolion Busnes, am bum mlynedd arall.
Mae'r cytundeb yn cydnabod y rôl y mae Ysgolion Busnes a'u prifysgolion cysylltiedig yn ei chwarae yn y gwaith o gefnogi busnesau bach, entrepreneuriaid, busnesau newydd a mentrau myfyrwyr.
Fel un o ddwy Ysgol Busnes achrededig yng Nghymru, mae Ysgol Busnes Caerdydd bellach yn gymwys i fod yn rhan o gynllun Help to Grow newydd Llywodraeth y DU, sy’n cynnig hyfforddiant rheoli ymarferol wedi'i deilwra a’i sybsideiddio i fusnesau bach.
Ar y panel ail-achredu diweddar roedd sefydliadau fel y Ffederasiwn Busnesau Bach a Sefydliad Cyfarwyddwyr Cymru, cynrychiolwyr busnes bach sy'n bartner i’r Ysgol Busnes a myfyrwyr entrepreneuraidd, gan gynnwys y rhai â'u busnes newydd eu hunain.
Dywedodd Ben Cottam, Pennaeth Cymru’r Ffederasiwn Busnesau Bach: “Rydym yn falch iawn o’r ffaith bod Ysgol Busnes Caerdydd wedi cadw Siarter y Busnesau Bach. Wrth i ni aildyfu a datblygu ein heconomi, mae’r angen i baru busnesau â'r arbenigedd sydd i'w gael mewn sefydliadau fel Ysgol Busnes Caerdydd erioed wedi bod yn bwysicach. Mae'r rhain yn bartneriaethau sy'n bwysig i'n heconomi ac er mwyn arloesi a bod yn entrepreneur. Rydym yn falch iawn o allu parhau â'n gwaith gyda'r Ysgol Busnes o dan faner y Siarter."
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o’r ffaith bod Cymdeithas Siartredig yr Ysgolion Busnes wedi ail-achredu Ysgol Busnes Caerdydd. Mae'r anrhydedd hwn yn cydnabod ymrwymiad parhaus y Brifysgol i gefnogi'r gymuned o fusnesau bach a'r economi leol, yn ogystal â datblygu'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid. Mae hefyd yn ein helpu i gyflawni strategaeth ein Cenhadaeth Ddinesig i ymgysylltu â'n cymunedau a chyfrannu at adferiad ôl-bandemig yng Nghymru. Bydd y gallu i fod yn rhan o Help to Grow, a alluogir gan achrediad Siarter y Busnesau Bach, yn gwella ymhellach ein gallu i gefnogi a chysylltu â busnesau bach ledled Cymru a thu hwnt."
“O aeaf 2021, bydd entrepreneuriaid, busnesau newydd a mentrau myfyrwyr yn gallu gweithio ochr yn ochr â ni yn ein hadeilad sbarc | spark o'r radd flaenaf ar Gampws Arloesedd Caerdydd. Yma, byddwn yn rhoi cymorth academaidd a phroffesiynol i helpu busnesau bach i droi syniadau gwych yn brosesau a chynhyrchion go iawn er budd y gymdeithas ehangach.”
Wrth ddyfarnu’r achrediad, amlygodd Siarter y Busnesau Bach:
- Cefnogaeth ragweithiol Ysgol Busnes Caerdydd i entrepreneuriaeth ymhlith myfyrwyr drwy gynnig ystod eang o gyfleoedd, gan gynnwys y cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith, ymgysylltu ag entrepreneuriaid a bod yn rhan o weithgareddau ymgynghori
- Ethos Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd sy’n canolbwyntio ar wasanaethu busnesau bach, mentrau cymdeithasol a chymunedau lleol – mae'r gwaith hwn wedi’i gynnwys yn strategaeth gaffael yr Ysgol ei hun, sydd wedi lleihau’r rhwystrau i fynediad i fusnesau bach lleol ac wedi cysylltu ag allbynnau ymchwil gwych a phartneriaethau trosglwyddo gwybodaeth yr Ysgol
Wrth ddyfarnu'r achrediad, cydnabuwyd Ysgol Busnes Caerdydd hefyd fel enghraifft o'i hymchwil integredig ym meysydd menter ac arloesi, yn ogystal â'i hethos Gwerth Cyhoeddus a mentrau cysylltiedig.
Dywedodd yr Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Rydym yn hynod falch o'n hymchwil, ein haddysgu a'n gwaith ym maes busnesau bach ac entrepreneuriaeth, ac rydym yn falch iawn o gael ein hail-achredu gan Gymdeithas Siartredig y Busnesau Bach am bum mlynedd arall.
“Mae’r ganmoliaeth am werth cyhoeddus ac ymchwil yn tystio i’r cysylltiadau ymroddedig a chydweithredol y mae cydweithwyr wedi’u sefydlu gyda’n busnesau bach, mentrau cymdeithasol a chymunedau cydweithredol yma yng Nghaerdydd, ledled Cymru a drwy’r DU.”
I gael rhagor o wybodaeth am waith Ysgol Busnes Caerdydd i gefnogi busnesau bach, ewch i https://www.cardiff.ac.uk/business-school/about-us/for-business/supporting-small-business-and-entrepreneurs
I gael rhagor o wybodaeth am sbarc | spark, ewch i https://campaigns.cardiff.ac.uk/innovation-campus
Ben Cottam, Head of Wales at the Federation of Small Businesses, said: “We’re very pleased that Cardiff Business School has again gained the Small Business Charter. As we re-grow and develop our economy, the need to pair businesses with the expertise to be found in institutions like Cardiff Business School has never been more important. These are important partnerships which are important for our economy and for developing entrepreneurship and innovation. We’re delighted to be able to continue our own work with the school under the banner of the Charter.”
Professor Colin Riordan, President and Vice-Chancellor, Cardiff University, said: “We are delighted that Cardiff Business school has been reaccredited by CABS. This prestigious accolade recognises the University’s ongoing commitment to supporting the small business community and the local economy as well as developing the next generation of entrepreneurs and helps us realise our Civic Mission strategy to engage with our communities and contribute to post-pandemic recovery in Wales. The ability to take part in Help to Grow, enabled by Small Business Charter accreditation, will further enhance our ability to connect with and support small businesses throughout Wales and further afield.”
“From winter 2021, entrepreneurs, start-ups and student enterprises will be able to work alongside us at our state-of-the-art sbarc | spark building on Cardiff Innovation Campus. Here, we will provide academic and professional support to help small business turn great ideas into tomorrow’s real-world processes and products that bring benefits to wider society.”
In making the award, the Small Business Charter highlighted:
- Cardiff Business School’s proactive support for entrepreneurialism within the student body by offering a wide range of opportunities including placements, engagement with entrepreneurs, and consultancy activities.
- Cardiff Business School’s Public Value ethos as a driver for its focus on serving small business, social enterprise, and local communities. This work has extended into the School’s own procurement strategy, which has lowered barriers to entry for local small business and connected with the school’s impressive small business research outputs and Knowledge Transfer Partnerships.
In awarding the reaccreditation, Cardiff Business School was also recognised as an exemplar for its integrated research on Enterprise and Innovation, as well as its Public Value ethos and associated initiatives.
Professor Rachel Ashworth, Dean of Cardiff Business School said: “We’re extremely proud of our research, teaching and engagement in the field of small business and entrepreneurship, and delighted to have been reaccredited by CABS for a further five years.
“The exemplar accolades for public value and research are testament to the committed and collaborative relationships colleagues have fostered with our small business, social enterprises and co-operative communities here in Cardiff, across Wales and throughout the rest of the UK.”
For more information about Cardiff Business School’s work to support small businesses, visit: https://www.cardiff.ac.uk/business-school/about-us/for-business/supporting-small-business-and-entrepreneurs
For more information about sbarc | spark, go to: https://campaigns.cardiff.ac.uk/innovation-campus