Ewch i’r prif gynnwys

Cyfansoddi cerddoriaeth drwy’r cyfnod clo

6 Gorffennaf 2021

Gareth Churchill
Corws Dynion Hoyw De Cymru yn perfformio Grinding

Parhaodd Gareth Churchill i ddysgu, cyfansoddi ac ymgysylltu â'r gymuned leol trwy gydol y pandemig

Mae Gareth wedi dysgu ein Gweithdy Cyfansoddi Cerddoriaeth ers nifer o flynyddoedd.Gan fod y cwrs hwn wedi'i ddysgu ar-lein yn draddodiadol, llwyddodd Gareth i barhau i annog a mentora ei fyfyrwyr yn ddi-dor dros yr ychydig fisoedd diwethaf.  Fodd bynnag, roedd Gareth yn teimlo'n siomedig y byddai ei gydweithrediadau cymunedol yn cael eu gohirio, ond disgleiriodd ei frwdfrydedd a'i benderfyniad llwyr pan sylweddolodd nid yn unig y gallai ei gwrs gael ei ddysgu ar-lein ond gallai ei brosiectau eraill ffynnu ar-lein hefyd. Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Gareth i glywed am ei brosiectau cyffrous:

“Roeddwn yn gyffrous i gydweithio â Chorws Dynion Hoyw De Cymru a oedd yn cael ei gefnogi gan gynllun Codi Buddies Tŷ Cerdd. Roeddwn yn falch iawn o ddarganfod bod y côr wedi dechrau cyfarfod ar-lein mewn cyd-destun mwy achlysurol ar gyfer caneuon cartref, cwisiau ac ati ac roedd hwn yn ymddangos fel y lle delfrydol i barhau â'n cydweithrediad a archwiliodd brofiadau'r côr ar apiau canlyn symudol.

Ar ddechrau'r ail gyfnod clo, hysbysebodd Opera Canolbarth Cymru eu cynllun Music at Your Place a chefais fy nenu gan y gobaith o allu ymgysylltu â grŵp cymunedol anther ar-lein a'u dysgu am fath newydd o gerddoriaeth.

Fel goroeswr strôc fy hun, es i ati i greu darn am brofiad y pandemig o safbwynt goroeswyr anafiadau ymennydd, mewn cydweithrediad â Headway Caerdydd a De Ddwyrain Cymru.

Ar ôl derbyn comisiwn a gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, cyfarfu fy nghydweithwyr a minnau ar-lein i ddatblygu testunau ac archwilio arddull cerddoriaeth ar gyfer y set o bedair cân fer sy'n ffurfio fy Gray Matters ar gyfer mezzo soprano a soddgrwth".

Rydym wedi derbyn adborth gwych gan fyfyrwyr Gareth sydd wedi gorffen ei Weithdy Cyfansoddi Cerddoriaeth:

“Rwyf wedi dysgu ymddiried yn fy ngreddf ar y cwrs hwn. Hefyd, pwysigrwydd ysgrifennu'r sgôr mewn ffyrdd sy'n mynegi fy syniadau yn glir ynghyd â phwysigrwydd cynhyrchu sgôr sy'n addas ar gyfer perfformiad. Roedd yn hynod ymarferol ac mae Gareth bob amser yn parchu'ch cerddoriaeth, a pha mor brofiadol bynnag ydych chi, bydd manylder a chraffter yr adborth bob amser yn rhoi technegau a syniadau i chi adeiladu arnynt." Chris Jones

Rydym yn ffodus iawn i gael Gareth ar ein tîm addysgu.  Os hoffech chi ymuno ag ef ac eraill o'r un anian ar ei gwrs, gellir dod o hyd i fanylion yn yr adran hon.

Rhannu’r stori hon