Yr Ysgol yn ffarwelio â’r Athro Karen Holford
21 Gorffennaf 2021
Yr Athro Karen Holford wedi’i phenodi’n Is-Ganghellor Prifysgol Cranfield
Mae'r Athro Karen Holford yn gadael Prifysgol Caerdydd ar 1 Awst 2021 i ymgymryd â rôl Is-Ganghellor Prifysgol Cranfield.
Dechreuodd Karen yr hyn a fyddai’n dod yn gysylltiad 40 mlynedd â Phrifysgol Caerdydd fel myfyriwr Peirianneg ac, ar ôl cyflawni swyddi yn y diwydiant gyda Rolls-Royce ac AB Electronics, dychwelodd i'r Brifysgol fel darlithydd. Roedd Karen yn ymchwilydd blaenllaw ac yn Athro mewn Peirianneg Fecanyddol. Hi hefyd oedd Pennaeth yr Ysgol Peirianneg. Rhwng 2012 a 2017, arweiniodd Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd fel y Rhag Is-Ganghellor cyntaf.
Mae'r Athro Holford wedi chwarae rôl werthfawr a hanfodol yn y gwaith o ddatblygu’r Ysgol Peirianneg dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae ei hymchwil ym maes monitro allyriadau acwstig wedi'i chymhwyso i strwythurau mawr a chymhleth ac, o ganlyniad i hynny, wedi trawsnewid prosesau archwilio pontydd concrit a dur ledled y byd.
Yr Athro Holford yw un o’r prif hyrwyddwyr peirianneg, ac mae'n aelod o sawl pwyllgor a sefydliad sy'n mynd ati i annog pobl ifanc i ystyried gyrfa yn y maes.
Yn 2007, enillodd y wobr Rhagoriaeth WISE (Women in Science and Engineering) am ei hymrwymiad hirdymor i gefnogi merched a menywod ifanc ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg.
Yn 2015, cafodd Karen ei hethol yn un o Gymrodorion yr Academi Beirianneg Frenhinol ac, yn 2016, cafodd ei henwi’n un o’r 50 o beirianwyr benywaidd mwyaf dylanwadol yn y DU. Yn ddiweddarach, derbyniodd CBE am wasanaethau i’r maes peirianneg ac am annog menywod ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg.
Roedd aelodau eraill o’r staff yn gallu rhannu atgofion a diolch i Karen am ei gwaith caled a'i hymroddiad yn ystod cyflwyniad a roddodd yr Ysgol Peirianneg ar 28 Mehefin 2021.
Rydym yn dymuno pob hapusrwydd a llwyddiant parhaus i'r Athro Holford ar gyfer y dyfodol.