Rhyfel ar Ddewiniaeth - sut mae haneswyr yn gweld y presennol yn y gorffennol
1 Gorffennaf 2021
Mae hanesydd hanes modern cynnar o Gaerdydd yn edrych ar sut y ceisiodd cenedlaethau cynharach o haneswyr dewiniaeth wneud dewiniaeth ei hun yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol yn y gyfres ddiweddaraf o Elements in Magic.
Yn rhan War on Witchcraft, o'r gyfres Elements in Magic, mae Dr Jan Machielsen yn edrych o'r newydd ar hanes ei bwnc ymchwil ei hun, gan adfer pwysigrwydd ailadroddiadau cynharach o stori dewiniaeth a dangos eu dylanwad heddiw.
Mae haneswyr erlid gwrachod y cyfnod modern cynnar yn aml yn dechrau hanesion eu maes gyda damcaniaethau Margaret Murray a Montague Summers o'r 1920au, yn anwybyddu effaith barhaol ysgolheictod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'i her 'afresymol'.
Yn ddiweddar, gwelwyd podlediad Machielsen am bleidd-ddynion Not Just The Tudors ar restr Spotify o “Podlediadau Gorau’r Wythnos”. Mae’n edrych at ysgolheigion cynharach, gan archwilio cyfraniadau'r haneswyr Americanaidd Andrew Dickson White (1832-1918) a George Lincoln Burr (1857-1938).
Mae astudio eu gwaith a'u personae ysgolheigaidd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o'r ddealltwriaeth boblogaidd sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn o'r helfa wrachod fel rhywbeth sy'n cynrychioli gorffennol afresymol yn hytrach na presennol oleuedig.
Mae'n ehangu: “Mae perthynas y dynion â’i gilydd, a gydag amheuwyr dewiniaeth - arwyr eu hastudiaethau - yn dangos sut roedd eu hysgrifau yn rhan o ryfel mwy yn erbyn ‘afreswm’, yr oeddent hwy eu hunain yn ymladd. Mae'r Elfen hon felly'n datgelu’r ffyrdd y gwnaeth gwrywdod ysgolheigaidd helpu i lunio hanesyddiaeth dewiniaeth, maes astudio sy'n aml yn cael ei ddominyddu gan ysgolheictod ffeministaidd.”
Mae Dr Jan Machielsen yn Uwch-ddarlithydd mewn Hanes Modern Cynnar yng Nghaerdydd. Nawr mae’n gweithio ar ei lyfr nesaf. Y llynedd fe olygoddThe Science of Demons: Early Modern Authors Facing Witchcraft and the Devil, gwrogaeth i ddau waith pwysig ar ddemonoleg foder gynnar, gan gynnwys 19 o arbenigwyr rhyngwladol.
Mae War on Witchcraft yn rhan o'r Gyfres Elements in Magic, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caergrawnt.