Ieithyddion yn rhan o dîm byd-eang sydd wedi creu llyfr plant am COVID-19
1 Gorffennaf 2021
Mae grŵp o ieithyddion o Brifysgol Caerdydd yn rhan o dîm byd-eang sy’n gyfrifol am ledaenu llyfr newydd a ddyluniwyd i helpu plant trwy bandemig COVID-19.
Mae'r Athro Claire Gorrara, Deon Ymchwil ac Arloesedd ar gyfer y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Lucy Jenkins, Cydlynydd Cenedlaethol Prosiect Mentora Myfyrwyr MFL, a'r Athro Anrhydeddus Loredana Polezzi o'r Ysgol Ieithoedd Modern, wedi cydweithio â Phrifysgol Namibia (UNAM) i gefnogi’r gwaith o gyfieithu a lledaenu'r llyfr Ti yw fy Arwres, sut y gall plant frwydro yn erbyn COVID-19!
Ysgogwyd y llyfr gan y Grŵp Cyfeirio Pwyllgor Sefydlog Rhyngasiantaethol y Cenhedloedd Unedig ar Gymorth Iechyd Meddwl a Seicogymdeithasol mewn Lleoliadau Brys a'i nod yw egluro sut y gall plant ddiogelu eu hunain, eu teuluoedd a'u ffrindiau rhag y coronafeirws, a sut i reoli emosiynau anodd wrth wynebu realiti newydd sy'n newid yn gyflym.
Oherwydd natur fyd-eang a lledaeniad y clefyd, gwnaeth y tîm y tu ôl i'r llyfr eu cenhadaeth i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth bwysig hon yn ei iaith ei hun. Gyda fersiynau ar gael mewn 143 o ieithoedd a chyfanswm o 50+ o addasiadau hyd yma, Ti yw fy Arwres, sut y gall plant frwydro yn erbyn COVID-19! yw un o'r dogfennau a gyfieithwyd fwyaf erioed yn y Cenhedloedd Unedig.
Manteisiodd tîm Caerdydd ar eu perthynas waith bresennol ag UNAM a ddatblygwyd trwy Brosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd, sef menter sy'n ceisio lleihau tlodi, hybu iechyd a chefnogi datblygiadau amgylcheddol cynaliadwy.
Gweithiodd Gorrara, Jenkins a Polezzi (sydd ar hyn o bryd yn Gadeirydd D'Amato mewn Astudiaethau Eidaleg Americanaidd ac Eidaleg ym Mhrifysgol Stony Brook, UD) ar y cyd trwy nifer o weithdai gydag athrawon a myfyrwyr o UNAM i greu cyfieithiadau o'r llyfr i bum iaith frodorol Namibia: Oshiwambo, Silozi, Khoekhoegowab, Otjiherero a Rukwangali. Mae'r llyfrau bellach yn cael eu hargraffu er mwyn lledaenu copïau caled ohonynt yn Namibia, ac mae'r posibilrwydd o gynhyrchu copïau braille hefyd yn cael ei ymchwilio.
Cafodd Ti yw fy arwres, sut y gall plant frwydro yn erbyn COVID-19! ei ysgrifennu a'i ddarlunio gan Helen Patuck, a chafodd ei lywio gan arolwg byd-eang i asesu anghenion iechyd meddwl a seicogymdeithasol plant yn ystod yr achosion o COVID-19. Gwnaeth mwy na 1,700 o blant, rhieni, darparwyr gofal ac athrawon o bedwar ban y byd rannu sut roeddent yn ymdopi â phandemig COVID-19. Datblygwyd fframwaith o bynciau i fynd i'r afael â nhw trwy'r stori gan ddefnyddio canlyniadau'r arolwg. Rhannwyd y llyfr trwy adrodd straeon i blant mewn sawl gwlad yr oedd COVID-19 yn effeithio arnynt. Defnyddiwyd adborth gan blant, rhieni a gofalwyr a fydd yn parhau i gael ei ddefnyddio yn y dyfodol i adolygu a diweddaru'r stori.
Mae Grŵp Cyfeirio Pwyllgor Sefydlog Rhyngasiantaethol y Cenhedloedd Unedig ar Gymorth Iechyd Meddwl a Seicogymdeithasol mewn Lleoliadau Brys yn bartneriaeth gydweithredol unigryw gan asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig, sefydliadau anllywodraethol cenedlaethol a rhyngwladol ac asiantaethau rhyngwladol sy'n darparu cymorth iechyd meddwl a seicogymdeithasol mewn lleoliadau brys.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y prosiect mewn Adroddiad Amlygu ar wefan y Pwyllgor Sefydlog Rhyngasiantaethol.