Ysgolheigion cyfraith fyd-eang yn cael eu hethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru
30 Mehefin 2021
Mae dau arbenigwr mewn meysydd amrywiol o gyfraith ryngwladol wedi cael eu hethol yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig fawreddog Cymru.
Mae'r athrawon Edwin Egede a John Harrington o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniadau i Gyfraith Ryngwladol a Chysylltiadau Rhyngwladol a Chyfraith Iechyd Byd-eang yn y drefn honno gan academi genedlaethol gyntaf Cymru ar gyfer gwyddoniaeth a llythrennau.
Cafodd y Gymdeithas ei sefydlu yn 2010 i hyrwyddo ymwybyddiaeth o sut mae'r gwyddorau, y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol o fudd i gymdeithas. Mae cael eich ethol i Gymrodoriaeth yn fodd o gael cydnabyddiaeth gyhoeddus am ragoriaeth academaidd, ac yn broses fanwl a thrwyadl lle caiff enwebiadau eu cynnig a'u cadarnhau gan Gymrodorion presennol y Gymdeithas. Yna, mae pwyllgor craffu perthnasol yn ystyried pob ymgeisydd. Ar ôl cael eu hethol, mae Cymrodyr yn cynorthwyo gwaith y Gymdeithas yn hyn o beth drwy gymryd rhan yn ei hamryw bwyllgorau a gweithgorau, a thrwy gynrychioli'r Gymdeithas yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae'r Athro Egede yn dysgu'r Gyfraith Ryngwladol a Chysylltiadau Rhyngwladol ac mae wedi bod ym Mhrifysgol Caerdydd ers 2007. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys cyfraith cefnfor, llywodraethu, gwleidyddiaeth, hawliau dynol, a chyfansoddiadaeth a democratiaeth yn Affrica.
Mae'r Athro Harrington wedi bod yn Athro Cyfraith Iechyd Byd-eang yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ers 2014 ac wedi bod yn Gyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC yng Nghymru ers 2019. Mae ei ymchwil bresennol ar iechyd byd-eang a’r genedl-wladwriaeth ar ôl COVID-19 yn cael ei gefnogi gan yr AHRC a rhaglen Sêr Cymru Llywodraeth Cymru.
Dywedodd yr Athro Egede, “Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio â Chymrodyr eraill yn y Gymdeithas i ddatblygu ymchwil ac ysgolheictod yn fy meysydd arbenigedd yng Nghymru a'r Byd Ehangach."
Ychwanegodd yr Athro Harrington, “Mae’n anrhydedd cael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae'n amser cyffrous i ymuno â'r Gymdeithas, o ystyried ei hymrwymiad i ryngwladoliaeth a'i hymgysylltiad ag ysgolheigion a phartneriaid ledled y byd. Mae'n anrhydedd mawr i mi.”