Y gost o sgamiau COVID-19 yn debygol o godi'n sylweddol, yn ôl adroddiad
13 Gorffennaf 2021
Mae nifer y sgamiau ar ddefnyddwyr a’r achosion o dwyll sy'n targedu rhaglenni cymorth y llywodraeth ynghylch y pandemig yn cael eu tangynrychioli, meddai academydd o Brifysgol Caerdydd.
Wedi'i gomisiynu gan Sefydliad Troseddeg Awstralia, rhan o Lywodraeth Awstralia, mae'r adroddiad ar y cyd gan yr Athro Michael Levi yn dod i'r casgliad bod yn rhaid i baratoadau rhag pandemigau ac argyfyngau economaidd y dyfodol gynnwys darpariaethau ar gyfer monitro twyll a’i reoli’n well.
Yn ôl yr Athro Levi, o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd: “Nododd ein hadroddiad rai mathau a methodolegau troseddau newydd sydd wedi codi yn ystod pandemig COVID-19. Mae'r cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau ar-lein wedi chwarae rhan enfawr yn y rhain. Y tu allan i dwyll ar gynlluniau benthyciad a nawdd cymdeithasol y llywodraeth - sy'n amlwg yn gysylltiedig â'r pandemig, nid yw'n glir eto faint o sgamiau COVID-19 sydd wedi digwydd fel troseddau ychwanegol, neu a yw twyllwyr wedi addasu eu tactegau a'u 'llinellau stori' yn gyflym i dargedu dioddefwyr yn bennaf.
“Er na fydd union faint y twyll a ddeilliodd o bandemig COVID-19 yn 2020-21 yn hysbys am beth amser - yn wir, efallai na fydd cyfran o’r twyll hwn byth yn cael ei nodi na’i feintioli, yn dibynnu ar awydd a goddefgarwch llywodraethau am risg - y mae yn glir bod y newidiadau cyllidol a chymdeithasol sydd wedi digwydd wedi creu cyfleoedd helaeth i weithredoedd o anonestrwydd a thwyll ddigwydd.”
Mae'r adroddiad yn cynnig cyfres o argymhellion i lywodraethau a sefydliadau sy'n ceisio mynd i'r afael â thwyll. Mae'r rhain yn cynnwys yr angen am adolygiadau parhaus o systemau rheoli a monitro twyll cenedlaethol, yn ogystal â datblygu technoleg well cyn i bandemig ddod.
Dywedodd yr Athro Levi: “Yr hyn sy’n syndod yw bod twyll a nodwyd yn ystod naw mis cyntaf y pandemig presennol wedi bod yn gymharol isel. Mae colledion oherwydd twyll ysgogiad y llywodraeth a nodwyd, sgamiau defnyddwyr a thwyll talu wedi cyfrif am filiynau yn hytrach na biliynau.
“Gellir dadlau efallai na fyddai llawer o unigolion a busnesau wedi profi effaith economaidd lawn COVID-19 yn ystod 2020, ar ôl cael eu cefnogi gan gynilion personol a rhaglenni cymorth y llywodraeth. Wrth deimlo effaith lawn y pandemig, ac wrth i ad-daliadau benthyciadau gael eu talu, mae'n debygol y bydd cost twyll yn cynyddu'n sylweddol. Felly hefyd y bydd ein hymwybyddiaeth o gamddefnyddio PPE a sgandalau caffael eraill, y gallai twyll a honiadau o wrthdaro buddiannau fod wedi'u hatal gyda thryloywder mwy a mwy. Gall twyll rheoli gymryd blynyddoedd i ddod i'r amlwg."
“Mae angen i lywodraethau ddysgu a dogfennu natur a maint y twyll sydd wedi digwydd ers i’r pandemig ddechrau, fel y gellir osgoi risgiau tebyg yn y dyfodol. Ond dim ond os oes gennym yr ewyllys gwleidyddol i wneud hynny y cânt eu hosgoi.”
Mae'r adroddiad, Twyll a'i berthynas â phandemigau ac argyfyngau economaidd: From Spanish flu to COVID-19, ar gael i'w weld yma.