Hawliodd gwyddonydd ymchwil loches er mwyn diogelu ei hun
30 Mehefin 2021
Mae Dr Numair Masud wedi llwyddo i greu bywyd newydd yng Nghymru, lle mae'n gallu byw a gweithio heb ofni cael ei garcharu oherwydd ei rywioldeb
Pan syrthiodd Numair Masud mewn cariad â dyn arall tra’n astudio ar gyfer ei PhD mewn Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd yn gwybod ei fod yn wynebu sefyllfa amhosibl.
Gan iddo gael ei fagu yn Karachi, y ddinas fwyaf ym Mhacistan, magwyd Dr Masud mewn cymdeithas lle mae cosbau troseddol difrifol ynghlwm wrth berthnasau o'r un rhyw ac mae’n rhaid i bobl LGBTQ+ fyw'n gyfrinachgar gan eu bod yn ofni gwahaniaethu a thrais yn eu herbyn.
Esboniodd Dr Masud: "Yr unig ffordd inni gael perthynas, yn anffodus, oedd pe bai gen i’r hawl i aros mewn gwlad a fyddai’n ei derbyn. Daeth yntau o Nigeria, a minnau o Bacistan, ac mae’r ddwy wlad yn wledydd gwrth-LGBTQ + i raddau helaeth iawn.”
Enillodd Dr Masud fisa myfyriwr i astudio sŵoleg ym Mhrifysgol Bryste yn 2010 cyn symud i Gymru.
Fel dyn hoyw agored, dywedodd Dr Masud ei fod yn ofni y gallai wynebu carchar neu gael ei ladd pe bai'n dychwelyd i Bacistan. Yn 26 oed, hawliodd loches yn y DU ar ôl sylweddoli mai'r unig ffordd y gallai fod yn driw iddo ei hun oedd bod mewn gwlad a oedd yn ei dderbyn fel ag y mae.
"Yn ôl côd cosbi Pacistan, gallwch chi gael eich anfon i'r carchar. Ac os ydych chi'n ildio i feddylfryd y dorf, byddai'n waeth o lawer; byddai'n llawer gwell gen i dreulio fy mywyd yn y carchar ac aros am y cyfle i ddianc na chael fy nghuro i farwolaeth gan dorf."
Ar ôl cwblhau ei PhD, daeth Dr Masud yn Gydymaith Ymchwil yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd. Mae'n dal i fod mewn cysylltiad â'i deulu ym Mhacistan ac yn dweud ei bod yn anodd newid barn ei rieni oherwydd eu hoedran a'u credoau.
"Rwy bob amser yn eu hatgoffa eu bod yn hŷn na fi a bod ganddyn nhw fwy o brofiad na fi, ond does neb yn fwy profiadol na fi o ran y profiadau dw i wedi eu cael."
Mae gwaith Dr Masud yn ymwneud â chlefydau heintus mewn anifeiliaid, “yn benodol, sut mae newid anthropogenig megis llygredd, er enghraifft, yn effeithio ar y ffordd y bydd pathogenau yn rhyngweithio. Mae hynny'n llai brawychus nag yr ymddengys.”
“Gwyddonydd ydw i yn y bôn. Actifydd LGBTQ+ ydw i hefyd. Gwyddonydd amser llawn ydw i, does dim amau hynny, ond actifydd rhan-amser ydw i hefyd."
Dan arweiniad ei gyfaill, Vishal Gaikwad, helpodd Dr Masud i greu’r grŵp o actifyddion Glitter Cymru yn 2016 ar ôl iddo sylwi ar y diffyg o ran lleoedd ar gyfer lleiafrifoedd ethnig LGBTQ+. Ar hyn o bryd mae'r grŵp yn cynnal digwyddiadau digidol wythnosol ac yn helpu i ariannu costau ar gyfer cyfarpar hanfodol megis contractau ffôn symudol.
Mae hanes Dr Masud yn debyg iawn i hanes ffoaduriaid a cheiswyr lloches eraill sydd wedi gwneud y DU yn gartref iddyn nhw eu hunain ac mae'n teimlo ei bod yn bwysig mynd dan groen y term a allai arwain at ddelweddau ystrydebol ym meddyliau pobl.
"Mewnfudwr mewn gwirionedd yw rhywun sydd ond yn symud o’r naill wlad i'r llall," meddai. "Ac yna wrth gwrs, y cwestiwn rhesymegol nesaf yw, pam mae rhywun yn symud? Ac mewn gwirionedd, gallai hyn ddigwydd am nifer o resymau. ”
"Mewnfudwr ym myd addysg oeddwn i y tro cyntaf imi gyrraedd y DU, ond roeddwn i hefyd yn fewnfudwr diwylliannol gan fy mod i wedi teithio i'r DU cyn hynny fel plentyn i weld teulu yma yn y DU ac felly roeddwn i wedi gweld llawer iawn o ddiwylliant y DU â’m llygaid fy hun.”
"Os ydyn ni eisiau byw mewn byd sy’n rhydd, a hoffwn i gredu y byddai'r rhan fwyaf o fodau dynol ystyriol eisiau byw ynddo, mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni amddiffyn hawl mewnfudwyr i symud yn rhydd."