sbarc | spark – adeilad Cyflog Byw cyntaf Cymru
1 Gorffennaf 2021
Adeilad sbarc | spark Prifysgol Caerdydd yw adeilad Cyflog Byw cyntaf Cymru.
Mae'r addewid yn golygu y bydd yn rhaid i bob un o denantiaid 'Cartref Arloesedd' Caerdydd yn y dyfodol dalu o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol i weithwyr a chontractwyr ar y safle.
Gweithiodd y Brifysgol gyda Cynnal Cymru – fforwm datblygu cynaliadwy Cymru – i sicrhau achrediad gan y Sefydliad Cyflog Byw.
Mae Adeiladau Cyflog Byw yn rhan o'r fenter Lleoedd Cyflog Byw. Adeilad sbarc | spark yw’r trydydd yn y DU, ar ôl International House yn Brixton, De Llundain a The Workbox yn Penzance, Cernyw.
Dywedodd Sarah Hopkins, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru: “Rydym yn falch iawn o wedi gweithio gyda sbarc | spark i fodloni’r meini prawf ar gyfer dod yn Adeilad Cyflog Byw cyntaf Cymru. Mae'r tîm wedi dangos arweinyddiaeth go iawn o ran yr amseru a’i ymrwymiad i symud y fenter hon yn ei blaen. Ers 2019, mae Prifysgol Caerdydd wedi’i chydnabod am ei huchelgais i wneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw, ac mae gan Adeiladau Cyflog Byw ran bwysig i'w chwarae yn y gwaith o sicrhau bod mwy o weithwyr yng Nghaerdydd yn cael Cyflog Byw gwirioneddol.”
Bydd sbarc | spark yn gartref i SPARK, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, lle bydd 400 o ymchwilwyr yn rhannu eu harbenigedd cyfunol i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, ac Arloesedd Caerdydd@sbarc, canolfan y Brifysgol ar gyfer mentrau, busnesau newydd a chwmnïau deillio.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, fod yr addewid yn ategu statws y Brifysgol fel cyflogwr Cyflog Byw ers 2014.
“Roeddem yn un o hyrwyddwyr cynnar a gweithgar y Cyflog Byw yng Nghaerdydd, Cymru a’r sector addysg uwch. Y Brifysgol oedd y gyntaf yng Nghymru ac un o brifysgolion cyntaf Grŵp Russell y tu allan i Lundain i gael ei hachredu, ac rydym yn falch iawn o gynnal y cynnydd rydym wedi’i wneud drwy’r rhaglen Cyflog Byw.”
Ychwanegodd yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr SPARK: Mae achrediad sbarc | spark fel Adeilad Cyflog Byw yn enghraifft o uchelgeisiau ein hymchwil i fynd i'r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol. Mae'r Cyflog Byw eisoes yn sail i ymchwil y Brifysgol. Er enghraifft, mae academyddion Ysgol Busnes Caerdydd wedi astudio cymhelliant sefydliadau i ddod yn gyflogwr Cyflog Byw, sut mae achrediad wedi newid eu henw da a'u cysylltiadau a sut mae achrediad wedi gwella’r gallu i recriwtio a chadw gweithwyr.”
Dangosodd canlyniadau'r astudiaeth, a gynhaliwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd , fod 86% yn credu bod achrediad wedi gwella enw da corfforaethol y sefydliad; bod 84% wedi dweud ei fod wedi gwella enw da'r sefydliad fel cyflogwr; bod 74% wedi dweud ei fod wedi gwella cymhelliant gweithwyr a bod 67% wedi dweud ei fod wedi arwain at fwy o weithwyr yn aros yn y sefydliad.
Y Cyflog Byw gwirioneddol yw'r unig gyfradd gyflog yn y DU sy'n cael ei thalu'n wirfoddol gan 7,000 o fusnesau yn y DU sy'n credu bod eu staff yn haeddu cyflog sy'n diwallu anghenion pob dydd.
Mae ymchwil y Brifysgol ei hun wedi dangos sut mae'r Cyflog Byw gwirioneddol wedi rhoi mwy na £1 biliwn o gyflog ychwanegol i weithwyr ers 2001, sy'n dod yn £29.3 miliwn yng Nghymru, lle mae 2,781 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig.