Ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i ymchwilio i gyffur newydd i atal canser y prostad na ellir ei wella rhag lledaenu
30 Mehefin 2021
Mae tîm o ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau bron hanner miliwn o bunnoedd mewn cyllid i ymchwilio i’r rheswm pam mae canser y prostad yn lledaenu i’r esgyrn a sut.
Canser y prostad yw'r canser sy’n cael ei ddiagnosio amlaf yn y DU. Canser y prostad hefyd yw’r prif achos marwolaeth ond un ymhlith dynion, ac ni ellir ei wella pan fydd wedi lledaenu i’r esgyrn.
Mae Dr Toby Phesse a Dr Helen Pearson o’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd wedi sicrhau £491,731 gan yr elusen Prostate Cancer Research i ymchwilio i sut mae llwybr signalu celloedd penodol yn rheoli lledaeniad canser y prostad i'r esgyrn.
Byddant yn targedu llwybr ‘Wnt’, sef signalau sy’n weithredol pan fydd gan unigolyn fath datblygedig neu fetastatig o’r canser hwn, i weld a allai rhwystro’r llwybr hwn atal celloedd canser rhag lledaenu, a hynny fel strategaeth therapiwtig newydd.
Dywedodd Dr Phesse: “Mae diffyg triniaethau effeithiol ar gyfer canser datblygedig y prostad, lle mae wedi lledaenu i rannau eraill o’r corff, yn un o'r rhesymau pam mae cyfradd oroesi canser y prostad mor wael. Mae angen triniaethau newydd ar frys.
“Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar signalau llwybr ‘Wnt’. Mae’r llwybr hwn yn achosi i ganser y prostad dyfu a lledaenu. Mae’n orweithredol pan fydd gan unigolyn ganser datblygedig y prostad ac yn achosi’r canser ymosodol.
“Mae ein hymchwil wedi dangos y gallai rhwystro'r llwybr hwn fod yn ffordd o drin canser datblygedig y prostad.”
Dywedodd Dr Pearson: “Mae yna gyffur sy'n rhwystro llwybr ‘Wnt’, ac mae eisoes yn cael ei brofi mewn cleifion â mathau eraill o ganser. Ein nod yw gwneud ymchwil i weld a all y cyffur hwn drin canser datblygedig y prostad.
“Canser y prostad sy'n lledaenu i'r esgyrn amlaf. Os gallwn ddeall y ffactorau sy'n rheoli sut mae canser y prostad yn lledaenu i’r esgyrn, mae’n bosibl y gallwn eu targedu i ddatblygu therapïau.
“Bydd y gwaith hwn yn rhoi gwybodaeth hanfodol i helpu i ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer yr agwedd hon ar ganser y prostad nad oes modd ei gwella ar hyn o bryd.”
Yn 2020, cyhoeddodd Prostate Cancer Research adroddiad ar ymchwil i ganser y prostad a chyllid ar ei gyfer, a amlygodd fwlch mewn gwybodaeth am ledaeniad canser y prostad i’r esgyrn. Datgelodd hefyd fod dros 60% o gyllid y DU ar gyfer canser y prostad wedi’i gyfyngu i’r ‘Triongl Aur’, fel y’i gelwir, sef Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt, tra bod Cymru’n cael 2% ohono’n unig.
Yn ei ymateb, dywedodd Prostate Cancer Research y byddai’n rhoi cyllid i’r gwyddonwyr gorau sydd â’r syniadau gorau, ni waeth ble maent yn y DU.
Dywedodd Dr Naomi Elster, Pennaeth Ymchwil Prostate Cancer Research: “Mae gan y prosiect hwn y potensial i lenwi bwlch pwysig iawn yn ein gwybodaeth, ac un sy’n sefyll yn ffordd gwell gofal i
gleifion. Gobeithio bod hyn yn golygu y gallwn gynnig mwy o opsiynau i gleifion cyn bo hir, p'un a ydynt yn cael diagnosis yn gynnar neu'n hwyr.”