Ewch i’r prif gynnwys

Adeiladu-Cyfansoddiad drwy arddull Gymreig

29 Mehefin 2021

Welsh flag

Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, wedi adrodd yn ôl yn dilyn cynnull gweithdy academaidd llwyddiannus a dylanwadol ar Adeiladu Cyfansoddiad yng Nghymru.

Gyda rhagweld creu comisiwn newydd i arwain sgwrs ddinesig genedlaethol yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai, cynullodd Dr Huw Pritchard a Dr Greg Davies weithdy academaidd i gyfrannu tuag at ei sefydlu, trwy gasglu adlewyrchiadau o brosesau adeiladu cyfansoddiad o’r gorffennol yng Nghymru.

Mynychwyd y sesiwn gan y Cwnsler Cyffredinol, academyddion blaenllaw o'r DG ac Iwerddon, gweision sifil a chadeiryddion ac aelodau o gomisiynau blaenorol yng Nghymru a rannodd eu profiadau o adeiladu cyfansoddiad.

Cynhaliwyd y digwyddiad o dan reolau Chatham House, ond mae Dr Pritchard a Dr Davies wedi cynhyrchu cyfres o argymhellion y maent yn gobeithio a fydd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru wrth i’r wlad gymryd y cam nesaf ar ei thaith gyfansoddiadol.

Dywedodd Dr Huw Pritchard:

“Daeth cyfres glir o argymhellion i’r amlwg o’n gweithdy y dylid eu hystyried er mwyn i unrhyw gomisiwn newydd gan Lywodraeth Cymru greu consensws ystyrlon ynghylch y cyfansoddiad yng Nghymru.

“Roedd nodi cynulleidfa darged y comisiwn yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth, ynghyd â’r angen i egluro sut y gallai fod yn gysylltiedig â thrafodaethau gyda plaid Lafur y DG ar Gomisiwn Cyfansoddiadol ledled y DG.”

Ychwanegodd Dr Greg Davies:

“Wrth alw am sgwrs genedlaethol, mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn awyddus i osgoi comisiwn technocrataidd, ond dylai egluro ar y dechrau sut y bydd unrhyw ymarferion trafod democrataidd eraill yn gysylltiedig â gwaith y comisiwn.

“Roedd cyfranogwyr y gweithdy hefyd yn glir y dylai Llywodraeth Cymru benodi comisiwn sydd nid yn unig ag arbenigedd ond sy'n gynrychioliadol o boblogaeth Cymru.

“Gyda'i gilydd, mae'r argymhellion yn yr adroddiad yn crisialu trafodaeth werthfawr a fydd, gobeithio, yn dylanwadu ar farn Llywodraeth Cymru.”

Bydd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw AS, yn traddodi araith gyhoeddus ar gyfer Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, ar Orffennaf 5ed, gyda manylion pellach ar gael yma.

Rhannu’r stori hon