Prosiect ymchwil newydd gwerth £2.8m i astudio deilliannau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc mewn gofal
28 Mehefin 2021
Mae’r rhaglen pedair blynedd yn cael ei harwain gan dîm rhyngddisgyblaethol o Brifysgol Caerfaddon a Rhydychen, ar y cyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste.
Nod y tîm ymchwil fydd adnabod y prosesau allweddol sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gan ganolbwyntio’n benodol ar y broses seicolegol a rôl systemau a gwasanaethau cefnogi, a hynny er mwyn adnabod targedau ar gyfer rhaglenni ymyrraeth ac atal yn y dyfodol.
Bydd Adoption UK a Coram Voice yn cefnogi’r gwaith, yn ogystal â thri phanel o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Bydd un o bob 30 o blant yn y DU yn cael ei roi mewn gofal rywbryd cyn ei ben-blwydd yn 18 oed. Mae llawer o'r bobl ifanc hyn wedi cael eu cam-drin a’u hesgeuluso ac maen nhw wedi wynebu anawsterau eraill. Unwaith eu bod mewn gofal, yn aml byddan nhw’n cael eu gwahanu oddi wrth frodyr a chwiorydd ac yn byw gyda sawl gofalwr, a gall yr ansefydlogrwydd parhaus hwn waethygu eu profiadau cynnar a dwyn canlyniadau tymor hir.
Bydd yr ymchwil yn defnyddio data cenedlaethol sy’n bodoli eisoes gan oddeutu 14,000 o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a bydd hefyd yn cynnwys astudiaethau hydredol newydd fydd yn cynnwys 600 o bobl ifanc rhwng 10-18 oed, eu gofalwr (gofalwyr), eu rhiant (rhieni) mabwysiadol a/neu weithwyr cymdeithasol.
Clustnodwyd £2.2m ar gyfer y prosiect hwn yn sgîl cyllid uniongyrchol gan UKRI, a daeth y gweddill o'r prifysgolion dan sylw.