Haf o archeoleg
24 Mehefin 2021
Mae lleoliadau gwaith Archaeoleg golygu bod israddedigion yn teithio ledled y DU gyda’r rhan hanfodol hon o'u gradd
Yr haf hwn mae myfyrwyr Archaeoleg Caerdydd yn dychwelyd i gaeau, amgueddfeydd, labordai ac unedau archeolegol ledled y DU.
Caiff myfyrwyr sy'n dilyn graddau Archaeoleg a Chadwraeth yng Nghaerdydd brofiad hynod werthfawr ar leoliad ac yn y maes, sy'n bosibl drwy'r rhwydwaith sydd wedi'i meithrin yn ofalus gan y disgyblaethau a fu'n dathlu eu canmlwyddiant yn 2020.
Yr haf hwn drwy gydweithio â phartneriaid uchel eu parch, mae myfyrwyr ar y ffordd i weithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau gan gynnwys Allen Archaeology, Archaeoleg Cymru, Dig Ventures, Geo Arch, Prifysgol Manceinion a Beneath Hay Bluff Archaeoleg Cyngor Sir Henffordd, Amgueddfa Cymru a'r Cynllun Henebion Cludadwy, ochr yn ochr â chyfleoedd i gymryd rhan mewn gwaith ôl-gloddio yn y labordai archaeoleg pwrpasol a’r Stiwdios Darlunio a Ffotograffig yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
Dan oruchwyliaeth arbenigwyr drwyddi draw, bydd myfyrwyr yn gweithio ar safleoedd ar draws llu o gyfnodau o'r Neolithig i'r canoloesol ledled y DU, o Strata Florida yng Nghymru i Garreg Arthur a Chastell Snodhill yn Lloegr a llawer o rai eraill.
Mae cyfleoedd ôl-gloddio yn cynnig lefel arall o brofiad, gan weithio ar ddarganfyddiadau gyda'n harbenigwyr byd-enwog uchel eu bri gan gynnwys yr Athro Archeoleg Niall Sharples ar ddarganfyddiadau o Orosay yn yr Alban a Dr Ben Jervis ar gerameg Canoloesol.
Yn aml, y lleoliadau yw elfen fwyaf poblogaidd y cwrs ymhlith israddedigion, gan roi sgiliau a gwybodaeth ar waith, a chynnig cyfle i ddadorchuddio'r gorffennol yn uniongyrchol.
Dywedodd Dr Oliver Davis, Tiwtor Derbyn Archeoleg:
“Dro ar ôl tro mae ein myfyrwyr yn dweud wrthym faint maen nhw'n gwerthfawrogi ein lleoliadau a'r fantais y mae'r profiad hwn o archaeoleg yn ei rhoi iddyn nhw. Mae'r hyfforddiant ymarferol maen nhw'n ei gael dros wyth wythnos ar gloddfa a lleoliadau eraill yn helpu ein hisraddedigion i ddatblygu, nid yn unig o ran techneg a chymhwyso ond hefyd y sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi y tu hwnt i'r ddisgyblaeth fel ymgysylltu â'r cyhoedd, gwaith tîm a'r gallu i gyfathrebu â chynulleidfa eang. ”
Cynhelir yr holl leoliadau gwaith dros wyliau'r haf yn dilyn blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn y radd, ac yn anarferol yn y DU, cânt eu trefnu a'u hariannu gan y Brifysgol. Ceir rhagor o wybodaeth am y graddau Archaeoleg a Chadwraeth yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ar-lein