Sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru
31 Mawrth 2021
Gweithwyr proffesiynol o brif elusen cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru ac Elusen Digartrefedd blaenllaw Cymru a arweiniodd y sesiwn ddiweddaraf yng Nghyfres Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021.
Dechreuodd Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg y sesiwn trwy amlinellu'r tri maes ffocws ar gyfer Chwarae Teg:
- menywod yn yr economi
- menywod mewn perygl
- menywod yn cael eu cynrychioli.
Dywedodd: “Mae'r egwyddorion hyn yn cynnig dealltwriaeth o anghydraddoldeb ar draws ein heconomi a'n cymdeithas. Maen nhw i gyd yn gysylltiedig â’i gilydd.
“Felly, er enghraifft, mae safle menywod yn y farchnad lafur yn eu gwneud yn fwy agored i gael eu cam-drin, o ddioddef caledi ariannol, tlodi ac ynysu cymdeithasol. Mae trais ac aflonyddu menywod a merched hefyd yn achosi anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac yn digwydd o ganlyniad iddo.
Gorffennodd trwy ddweud “Os na fyddwn yn gweithredu ar draws y tri maes, ni fyddwn yn gwneud cynnydd.”
Cyflwr y Genedl
Aeth Cerys ymlaen i ddisgrifio sut mae Cymru decach, lle gall pob merch gyflawni a ffynnu, hefyd yn ganolog i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau Esboniodd sut mae hyn yn golygu cymryd agwedd groestoriadol tuag at ein gwaith a'n gweithredoedd.
Mae adroddiad blynyddol Chwarae Teg, Cyflwr y Genedl yn myfyrio ar berfformiad Cymru yn y maes hwn trwy fesur cynnydd yn erbyn ystod o ddangosyddion allweddol sy'n ymwneud â chydraddoldeb rhywiol.
Y llynedd, comisiynodd y sefydliad ymchwil yn ymwneud â phrofiadau menywod yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn benodol .
“Ni chafodd pob menyw union yr un profiad,” meddai Cerys. “Serch hynny, mae'n ymddangos bod menywod yn rhannu rhai profiadau a phryderon cyffredin.
“Er enghraifft, rydyn ni'n gwybod bod y cyfnod clo wedi cael cryn effaith ar iechyd menywod, eu profiad ym myd gwaith, a’u cyfrifoldebau gofalu, ar gyfer plant ac oedolion. Mae hyn yn dweud wrthym bod polisïau’n cael eu llunio heb ystyried y gwahaniaethau rhwng y rhywiau, a bod hynny’n amharu ar fenywod yn fwy na dynion. Mae’n rhaid i ni weithredu.”
Fe wnaeth Cerys orffen ei chyflwyniad trwy amlinellu'r ffyrdd y gall unigolion a sefydliadau wneud gwahaniaeth.
Fel unigolion, esboniodd Cerys y gallwn:
- Tynnu sylw at arfer annheg
- Myfyrio ar gynhwysiant ein timau sefydliadol a'n diwylliant
- Gwella ein prosesau recriwtio a dethol.
Ac fel sefydliadau, roedd Cerys yn eiriol dros:
- Gyhoeddi ein data
- Myfyrio ar yr anghydraddoldeb sy'n bodoli yn ein gweithleoedd
- Cael cefnogaeth arbenigol i fynd i'r afael â phroblemau
- Gosod targedau a chymryd camau cadarnhaol.
Mae Chwarae Teg yn cefnogi unigolion a sefydliadau i weithredu newid fel hyn trwy eu rhaglenni Agile Nation2 ar gyfer datblygu busnes a gyrfa, yn ogystal â'u Gwobr Chwarae Teg i Gyflogwyr.
Dilynodd Louise David, Rheolwr Codi Arian yn Llamau, gyflwyniad Cerys trwy ganolbwyntio ar un o ganlyniadau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau - cam-drin domestig.
“Mae cam-drin domestig yn bwnc anodd iawn i siarad amdano,” meddai. “Mae'n bwnc anodd iawn i’w drafod gydag eraill hefyd. Ond gobeithio y gallwn roi ychydig o awgrymiadau i chi heddiw, i fwrw rhywfaint o oleuni ar hynny.”
Esboniodd Louise y gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un, p’un a oes ganddynt unrhyw nodweddion gwarchodedig neu beidio. Fodd bynnag, pwysleisiodd mai menywod sy’n cael eu heffeithio'n bennaf. Mae ystadegau'n dangos y bydd un o bob tair menyw yng Nghymru yn dioddef cam-drin domestig ar ryw adeg yn eu bywydau.
Mae hyn yn golygu, os yw sefydliad yn cyflogi 500 o ferched, bydd tua 166 ohonyn nhw wedi profi cam-drin domestig ar ryw adeg yn eu bywydau yn ôl pob tebyg.
Manteisiodd Louise ar y cyfle hwn i rannu fideo yn trafod profiadau 'Natasha', menyw a gafodd ei chefnogi gan Llamau a wnaeth benderfyniad dewr a brawychus i adael cartref lle roedd yn cael ei cham-drin.
Gan fyfyrio ar stori Natasha, ychwanegodd Louise: “Yr hyn sy'n hynod ddiddorol am gam-drin domestig yw nad oes demograffeg benodol o fenywod y mae hyn yn digwydd iddo. Felly, nid yw tlodi, statws cyflogaeth na lefel cyflogaeth yn ddangosydd. Gall ddigwydd i unrhyw un.”
Amlinellodd Louise sut mae cam-drin domestig yn effeithio ar gyflogwyr trwy gostau ariannol sy'n gysylltiedig ag absenoldeb, ymgysylltu, salwch a’u cadw yn y swydd. Esboniodd fod pobl yn credu bod cam-drin yn digwydd yn y cartref yn unig, ond mewn gwirionedd mae menywod yn aml yn cael eu targedu yn y gwaith. Gall hyn effeithio ar les cydweithwyr oherwydd gallent gael eu hunain yn gysylltiedig â sefyllfaoedd o gam-drin, gan achosi risg i'w diogelwch a'u lles.
Gorffennodd Louise ei chyflwyniad trwy amlinellu ffyrdd y gall unigolion a chyflogwyr helpu, trwy:
- greu lleoedd lle gall unigolion siarad, gwrando a chredu
- sicrhau bod gan eich sefydliad bolisi cam-drin domestig
- grymuso staff i deimlo'n hyderus i gefnogi eu cydweithwyr.
Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb ar ôl cyflwyniadau Cerys a Louise.
Mae cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl yn y byd masnachol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau pwysig diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.
Yn sgil cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru o achos pandemig COVID-19, mae Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol yn cynnal y gyfres ar y we.
Os nad oeddech chi’n gallu bod yn bresennol, dyma fideo o'r cyfarfod.