Rasio cychod papur i achub dyn a foddodd
23 Mehefin 2021
Gŵyl draddodiadol bwysig yn Tsieina ac mewn llawer o wledydd Asiaidd eraill yw Gŵyl Cychod y Ddraig, 'Duanwu' neu 端午.
Dathliad yw’r ŵyl mewn gwirionedd o fywyd Qu Yuan, y bardd hynafol o Tsieina a foddodd, yn ôl y chwedl, mewn afon yn ystod cyfnod y 'Taleithiau Rhyfelgar' (rhwng tua 475 a 221 cyn y cyfnod cyffredin). Yn ôl y sôn, ar ôl i bobl leol ddarganfod beth oedd wedi digwydd, gwnaethant rasio’u cychod yn wyllt i chwilio amdano, gan ollwng swmpiau o reis i'r afon fel na fyddai pysgod yn gwledda ar ei gorff. Dyma pam mae cymaint o rasys cychod yn cael eu cynnal yn ystod yr yr adeg hon, a pham mae teuluoedd yn gwneud ac yn bwyta 'zongzi' – math o dwmplen reis gludiog wedi'i lapio mewn dail bambŵ.
Gan y dywedir i Qu Yuan foddi ar bumed diwrnod pumed mis y calendr lleuad, cynhelir yr ŵyl bob blwyddyn ar y diwrnod hwn. Fodd bynnag, mae'r dyddiad yn newid i'r rhai ohonon ni sy'n defnyddio calendrau eraill. Felly, yn 2021, bydd yr ŵyl yn digwydd ar 14 Mehefin. I ddathlu, mae tiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd wedi paratoi rhai adnoddau ar-lein arbennig i athrawon eu defnyddio yn y dosbarth, neu i blant (neu oedolion!) eu mwynhau gartref. Roedd y disgyblion yn awyddus iawn i greu eu cychod draig eu hunain a'u rasio, felly dyma beth wnaeth rhai ohonynt.
Gofynnwyd i ddisgyblion o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni wneud cyflwyniadau ar bopeth yr oeddent wedi'i ddysgu am Ŵyl Cychod y Ddraig. Fe wnaeth dosbarth blwyddyn 8 ddarllen a pherfformio drama am stori Qu Yuan hyd yn oed, ac ysgrifennu a pherfformio siant mewn Mandarin i annog y rhwyfwyr i rwyfo’n gyflymach!
“Roedd yn braf gweld disgyblion yn gweithio gyda’i gilydd ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd” meddai athrawes Ysgol Gynradd Maes-Y-Coed, Sue King. “Roedden nhw wrth eu boddau’n gwylio’r clip o ŵyl gychod go iawn ac yn methu â chredu pa mor gyflym roedd y bobl yn rhwyfo!”