Datblygiad allweddol ym maes nanostrwythurau magnetig 3D a allai drawsnewid cyfrifiadura cyfoes
22 Mehefin 2021
Mae tîm dan arweiniad Dr Sam Ladak o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi defnyddio'r uwchgyfrifiadur Hawk mewn ymchwil sy'n agor y posibilrwydd o harneisio gwefr fagnetig i storio gwybodaeth mewn delltiau 3D dwys.
Mae tîm dan arweiniad gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi creu’r replica 3D cyntaf erioed o ddeunydd iâ troelli, drwy ddefnyddio math soffistigedig o argraffu a phrosesu 3D. Llwyddodd y grŵp i ffugio dellt magnetig 3D drwy ddefnyddio technolegau argraffu arbenigol a phrosesu cysylltiedig, gyda microsgopeg grym magnetig wedyn yn cael ei defnyddio i ddelweddu diffygion sy'n ymddwyn fel monopolau magnetig ar wyneb y dellt.
Drwy ddefnyddio meddalwedd NMAG, defnyddiwyd Hawk i gyfrifo egni cyflyrau monopolau. Fe wnaeth hyn alluogi'r ymchwilwyr i ddangos bod ffurfiant monopolau ar ddau fertig cydlynu, ar yr arwyneb, yn broses ynni uchel, yn hytrach na'r swmp gyda phedwar fertig cydlynu. Trwy fewnbynnu'r gwerthoedd ynni a gyfrifwyd gan ddefnyddio NMAG i feddalwedd arbenigol Monte-Carlo, a ysgrifennwyd gan wyddonwyr yn Los Alamos, llwyddodd y grŵp i atgynhyrchu'r canlyniadau arbrofol hyn.
Mae'r astudiaeth hon, a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Nature Communications, yn agor y posibilrwydd o harneisio gwefr fagnetig i storio gwybodaeth mewn delltiau 3D dwys. Canlyniad a allai drawsnewid cyfrifiadura modern yw hwn. Mae mwy o fanylion am yr ymchwil hon ar gael mewn eitem newyddion a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Brifysgol.