Cwnsler Cyffredinol newydd i alw am ‘sgwrs sifig genedlaethol’
21 Mehefin 2021
Bydd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad newydd, Mick Antoniw AS, yn rhoi araith ar ran Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd y mis nesaf, lle bydd yn amlinellu cynlluniau i gynnal sgwrs genedlaethol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Yng nghyd-destun cyhoeddiad pwysig Llywodraeth Cymru, ‘Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU’, a’r galw am ddatganoli ar seiliau ffederal radical, bydd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn nodi sut mae'n bwriadu ymgysylltu â phobl Cymru wrth lunio "gweledigaeth newydd i Gymru gref mewn DG lwyddiannus".
Mae modd i bawb wrando ar yr araith ar-lein am 10am ar 5 Gorffennaf. Cofrestrwch drwy'r ddolen hon.