Her Sylwebwyr Cymru
21 Mehefin 2020
I ddathlu tymor pêl-droed yr haf hwn, mae Cardiff City FC Foundation, Prifysgol Caerdydd a Chyngor Caerdydd wedi dod at ei gilydd i lansio’r her arbennig, Her Sylwebwyr Cymru.
Rydyn ni’n gwahodd ysgolion yng Nghaerdydd i weithio gyda disgyblion i greu darn o sylwebaeth 30 eiliad am eu hoff gôl o dymor pêl-droed yr haf hwn.
Bydd disgyblion yn cael y cyfle i brofi sut beth yw bod yn sylwebydd ar yr un pryd â datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig mewn ffordd hwyliog a chyffrous.
Newyddiadurwr ITV, Beth Fisher, a Rhydian Bowen Phillips o S4C sydd wedi gosod yr her, a byddant yn dewis un enillydd Cymraeg ac un Saesneg.
Mae llawer o wobrau gwych i’w hennill, yn cynnwys crys Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi’i fframio a phrofiad diwrnod gêm Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i’ch ysgol.
Rhaid cyflwyno’r ceisiadau ddim hwyrach na 25 Mehefin e-bost diogel i Tom.Knight@cardiffcityfc.org.uk. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Tom.Knight@cardiffcityfc.org.uk neu ffoniwch 07701 287 687.
Pob lwc!