Llwyddiant yn y Gynhadledd Sôn am Wyddoniaeth
17 Mehefin 2021
Cafodd cyflwyniad difyr myfyriwr PhD ar ymchwil i glefydau prion drwy gyfrwng y Gymraeg ei gydnabod mewn cynhadledd ryngddisgyblaethol ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.
Dyfarnwyd gwobr Dewis y Bobl i Bedwyr Thomas, myfyriwr PhD yn Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd, yn y gynhadledd Sôn am Wyddoniaeth ym mis Mai.
Mae prosiect PhD Bedwyr yn canolbwyntio ar ymchwilio i glefydau prion, fel clefyd ‘mad cow’ a kuru, ac mae'n ymchwilio i driniaethau arloesol ar gyfer y clefydau yn gyfan gwbl yn Gymraeg.
Yn y gynhadledd, roedd cyflwyniadau fideo pum munud yr ymgeiswyr yn gyfle iddynt dynnu sylw at eu hymchwil. Roedd modd i’r myfyriwr PhD rannu ei ymchwil ag ymchwilwyr eraill ar ddechrau eu gyrfa.
Dywedodd Bedwyr: “Roedd yn wych derbyn gwobr Dewis y Bobl am y cyflwyniad fideo gorau. Roedd yn annisgwyl, gan mai fi oedd yr unig siaradwr yn y gynhadledd gyfan a gyflwynodd yn Gymraeg.
“Roedd cyfieithydd yn gallu cyfieithu’r cyflwyniad yn fyw, a newidiais i’r Saesneg er mwyn ateb cwestiynau’r gynulleidfa. Gwnaeth hyn roi’r cyfle i mi rannu fy ymchwil yn fy iaith gyntaf.
“Roedd yr adborth a gefais yn anhygoel o gadarnhaol. Dyma’r tro cyntaf i mi roi cyflwyniad mewn cynhadledd, ac mae’n galonogol iawn gwybod bod y rhai a oedd yn bresennol wedi mwynhau fy ffordd o gyflwyno a bod ganddynt ddiddordeb yn fy ymchwil.”
Bydd Bedwyr yn mynd ymlaen i gyflwyno yn y Gynhadledd Wyddonol a’r Gynhadledd Ymchwil, digwyddiadau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.